|
Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, Prifysgol Aberystwyth SY23 3EB 01970 622248 organic@aber.ac.uk
Beth yw Canolfan Organig Cymru?Fe noddir y Ganolfan gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ac fe'i sefydlwyd yn 2000 i ddarparu gwybodaeth i'r sector organig yng Nghymru. Fe rhedir y Ganolfan gan bartneriaeth o ADAS Cymru, Prifysgol Aberystwyth a'r Ganolfan Ymchwil Organig, Elm Farm. Mwy
Ynglyn â Chanolfan Organig Cymru |
Ynglŷn â Chanolfan Organig Cymru:![]() Sefydlwyd Canolfan Organig Cymru yn 2000 fel canolbwynt i daenu gwybodaeth am fwyd a ffermio organig yng Nghymru i gynhyrchwyr a phartïon eraill sydd â diddordeb. Yn 2003, cytunwyd y dylai ymestyn ei ffocws i gynnwys addysg gyhoeddus, caffael cyhoeddus, datblygu polisi a strategaeth, gan ddarparu fel hyn gefnogaeth i'r holl gymuned organig yng Nghymru. Fe'i lleolir ym Mhrifysgol Aberystwyth. Rheolir y Ganolfan ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth gan bartneriaeth sy'n cynnwys tri sy'n weithgar ym maes ymchwil ffermio a throsglwyddo gwybodaeth organig yng Nghymru: ADAS Cymru, The Organic Research Centre Elm Farm, a Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig Prifysgol Cymru Aberystwyth. Mae staff creiddiol y Ganolfan yn gyfrifol am gydlynu'r gwahanol feysydd gweithgarwch gyda'r partneriaid yn gyfrifol i raddau helaeth am ddosbaarthu'r gwasanaethau i gynhyrchwyr ac eraill. Mae'r Ganolfan yn derbyn arian gan Lywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) i gyflawni'r swyddogaethau cydlynol, gydag arian ychwanegol trwy gontract arall LlCC ar gyfer y Gwasanaeth Gwybodaeth Trosi Organig. Mae cefnogaeth ychwanegol gan EAFRD yr Undeb Ewropeaidd yn darparu Rhaglen Ddatblygu Organig Cyswllt Ffermio a phrosiect Effeithlonrwydd y Gadwyn Gyflenwi Gwell Gysylltiadau Busnes Organig ar gyfer y sector organig. Cysylltwch â'r Ganolfan Rhestr y staff Gwybodaeth am fwyd a ffermio organig yng Nghymru
|