|
Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, Prifysgol Aberystwyth SY23 3EB 01970 622248 organic@aber.ac.uk
Beth yw Canolfan Organig Cymru?Fe noddir y Ganolfan gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ac fe'i sefydlwyd yn 2000 i ddarparu gwybodaeth i'r sector organig yng Nghymru. Fe rhedir y Ganolfan gan bartneriaeth o ADAS Cymru, Prifysgol Aberystwyth a'r Ganolfan Ymchwil Organig, Elm Farm. Mwy
|
Newyddion organig o Gymru a thu hwntmwy o newyddion...A fyddai Stapledon wedi bod yn ffermwr organig?
Llongyfarchiadau i John Davis a enillodd gês o win organig am ei draethawd yn dadlau y byddai Syr George Stapledon wedi cefnogi ffermio organig, mewn cystadleuaeth a noddwyd gan yr Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr IBERS. Mae'n seilio ei ddadl ar gefnogaeth Stapledon i gylchdroeon cnydau sy'n defnyddio gwndwn porfa a meillion, da byw a chnydau âr gan leihau'r angen am wrtaith nitrogen ac agrogemegolion eraill, a'i gonsyrn cyffredinol am yr amgylchedd naturiol. Gwybodaeth am fwyd a ffermio organig yng Nghymru
|