logo Canolfan Organig Cymru
Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, Prifysgol Aberystwyth SY23 3EB
01970 622248   organic@aber.ac.uk
Beth yw Canolfan Organig Cymru?Fe noddir y Ganolfan gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ac fe'i sefydlwyd yn 2000 i ddarparu gwybodaeth i'r sector organig yng Nghymru. Fe rhedir y Ganolfan gan bartneriaeth o ADAS Cymru, Prifysgol Aberystwyth a'r Ganolfan Ymchwil Organig, Elm Farm. Mwy
logo Prifysgol Aberystwyth logo Canolfan Ymchwil Organig Elm Farm logo ADAS
  
English

Newyddion organig o Gymru a thu hwnt

mwy o newyddion...

Adroddiad ar agweddau defnyddwyr

Mae'r argyfwng ariannol a'r dirwasgiad dilynol wedi gorfodi defnyddwyr i ailfeddwl am eu penderfyniadau prynu ar draws eu holl wariant, gan gynnwys bwyd.

Yn gyffredinol, mae'r defnydd o nwyddau organig wedi ffynnu ond mae cynhyrchwyr yn gorfod gweithio'n galetach am eu cyfran hwy o'r gwariant a chystadlu ag opsiynau prynu moesegol eraill. Mae gwybod am agweddau defnyddwyr a chyfleu negeseuon organig allweddol yn ystyriaethau pwysig yn natblygiad marchnata organig. Er mwyn helpu i gyfeirio datblygiad y farchnad a chynorthwyo cynhyrchwyr i hyrwyddo'u cynnyrch yn y modd mwyaf effeithiol mae'r prosiect BOBL yn gwahodd tendrau am adroddiad i newid agweddau defnyddwyr.

Bydd y cynigydd llwyddiannus yn adolygu data ar wariant ar gynnyrch organig, yn enwedig yng Nghymru, ac yna'n gweithio'n uniongyrchol â defnyddwyr i ddeall beth sy'n ysgogi eu penderfyniadau prynu. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â . darllen mwy   

Stori gynt: Diwedd difa lloi gwryw buches laeth
Stori nesaf: Ffrwythau meddal yn yr ucheldir

Gwybodaeth am fwyd a ffermio organig yng Nghymru
Dylunio'r wefan: mach2media a Technoleg Taliesin Cyf.