logo Canolfan Organig Cymru
Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, Prifysgol Aberystwyth SY23 3EB
01970 622248   organic@aber.ac.uk
Beth yw Canolfan Organig Cymru?Fe noddir y Ganolfan gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ac fe'i sefydlwyd yn 2000 i ddarparu gwybodaeth i'r sector organig yng Nghymru. Fe rhedir y Ganolfan gan bartneriaeth o ADAS Cymru, Prifysgol Aberystwyth a'r Ganolfan Ymchwil Organig, Elm Farm. Mwy
logo Prifysgol Aberystwyth logo Canolfan Ymchwil Organig Elm Farm logo ADAS
  
English

Newyddion organig o Gymru a thu hwnt

mwy o newyddion...

Diweddariad ar brosiect BOBL mis Chwefror 2010

Bwriad prosiect BOBL yw cefnogi'r cynhyrchwr sylfaenol yng Nghymru a thyfu'r farchnad ar gyfer cynnydd organig Cymreig mewn ffordd gynaliadwy. Bydd y prosiect yn datblygu marchnadoedd newydd a rhai sy'n ymddangos ar gyfer cynnyrch organig wrth hybu arloesedd ym mhob lefel o'r gadwyn cyflenwi.

Arolwg agwedd cwsmeriaid: Mae'r gwahoddiad i dendro wedi cynhyrchu cryn ddiddordeb a chwmnïau wedi cael eu gwahodd am gyfweliad. Bydd y gwaith yn dechrau ar Ddydd Gŵyl Dewi gyda'r bwriad o'i gyflawni erbyn diwedd mis Mai.

Biofach: Fe aeth criw bach o bobl i weld yr arddangosfa organic Biofach yn Nuremberg. Fe wnaethpwyd cysylltiadau gyda nifer o bobl yn cynnwys arddangoswyr ac arbenigwyr eraill o Brydain yn cynnwys rhai o fyd tecstilau. Mae adroddiad sy'n crynhoi canlyniadau'r ymweliad ac argymhellion ar gyfer mynychu arddangosfeydd rhyngwladol wedi cael ei baratoi.

Tendr PR: Mae briff yn cael ei baratoi ar y gwaith sydd angen cyn dewis a phenodi cwmni i roi cymorth i ni ddatblygu negeseuon allweddol a gweithredu strategaeth cyfathrebu. Bydd y strategaeth yn cydlynu gydag ac adeiladu ar waith yr ymgyrch Organig UK ac argymhellion yr arolwg ar Agwedd Cwsmeriaid.

Cefnogaeth ar gyfer busnesau organig: Mae'r prosiect yn cynnwys cefnogaeth ar gyfer busnesau sydd eisiau ychwanegu gwerth at eu cynnyrch a/neu sy'n chwilio ffyrdd newydd o gyflenwi'r farchnad, yn enwedig trwy'r archfarchnadoedd. Os oes gennych ddiddordeb mewn cyflawni hwn e-bostiwch Dafydd Owen.

Gwybodaeth o'r farchnad: Mae adroddiadau ar y sector laeth, cig coch a thwristiaeth yn cael ei adolygu a bydd fersiynau terfynol o'r adroddiadau yn cael eu cwblhau yn fuan. Bydd canlyniadau ac argymhellion yr adroddiadau yn cael eu dosbarthu'n eang. Mae adroddiadau ar arddwriaeth a chnydau âr, sy'n cynnwys y farchnad ar gyfer cynnydd o foch a dofednod, wedi cael eu comisiynu.

Adroddiad cywennod: Mae adroddiad a seminar ar gynhyrchu cywennod organig wedi rhoi hwb i gwrdd â'r angen i gynhyrchu mwy ohonynt. darllen mwy   

Stori gynt: Prosiect Perllannau Powys: cymerwch ran mewn arolwg
Stori nesaf: Masnach Deg yn ffynnu - beth am organig?

Gwybodaeth am fwyd a ffermio organig yng Nghymru
Dylunio'r wefan: mach2media a Technoleg Taliesin Cyf.