logo Canolfan Organig Cymru
Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, Prifysgol Aberystwyth SY23 3EB
01970 622248   organic@aber.ac.uk
Beth yw Canolfan Organig Cymru?Fe noddir y Ganolfan gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ac fe'i sefydlwyd yn 2000 i ddarparu gwybodaeth i'r sector organig yng Nghymru. Fe rhedir y Ganolfan gan bartneriaeth o ADAS Cymru, Prifysgol Aberystwyth a'r Ganolfan Ymchwil Organig, Elm Farm. Mwy
logo Prifysgol Aberystwyth logo Canolfan Ymchwil Organig Elm Farm logo ADAS
  
English

Newyddion organig o Gymru a thu hwnt

mwy o newyddion...

Masnach Deg yn ffynnu - beth am organig?

Dengys ffigurau a gyhoeddwyd ar ddechrau Pythefnos Masnach Deg fod gwerthiannau cynhyrchion masnach deg wedi tyfu 12% yn ystod 2009, tra bod gwerthiannau cynhyrchion organig wedi disgyn 31% ar gyfer bara ac 16.5% yng nghyswllt ffrwythau. Dyma oedd gan Sue Fowler, cyfarwyddwr Canolfan Organig Cymru, i'w ddweud ynghylch hyn: “Mae'n dangos fod pobl sy'n derbyn neges eglur am fasnachu moesegol ac sy'n gweld eu bod yn gallu gwneud rhywbeth i helpu, yn barod i wneud ymrwymiad tuag at sicrhau tecach byd.”
“Rydym yn gweithio'n galed er mwyn sicrhau bod bwyd organig yn cael ei ystyried mewn modd tebyg, ac am ei fanteision i'r amgylchedd a lles anifeiliaid yn arbennig - er bod cyfleu'r neges hon dipyn yn fwy cymhleth. Ac, wrth gwrs, os gallwch brynu cynnyrch sy'n organig ac yn fasnach deg ar yr un pryd, y mae'r manteision yn fwy fyth.” Western Mail
www.fairtrade.org.uk

Stori gynt: Diweddariad ar brosiect BOBL mis Chwefror 2010
Stori nesaf: Dychwelyd at ffermio gyda natur

Gwybodaeth am fwyd a ffermio organig yng Nghymru
Dylunio'r wefan: mach2media a Technoleg Taliesin Cyf.