logo Canolfan Organig Cymru
Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, Prifysgol Aberystwyth SY23 3EB
01970 622248   organic@aber.ac.uk
Beth yw Canolfan Organig Cymru?Fe noddir y Ganolfan gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ac fe'i sefydlwyd yn 2000 i ddarparu gwybodaeth i'r sector organig yng Nghymru. Fe rhedir y Ganolfan gan bartneriaeth o ADAS Cymru, Prifysgol Aberystwyth a'r Ganolfan Ymchwil Organig, Elm Farm. Mwy
logo Prifysgol Aberystwyth logo Canolfan Ymchwil Organig Elm Farm logo ADAS
  
English

Newyddion organig o Gymru a thu hwnt

mwy o newyddion...

Arwyr bwyd lleol canolbarth a gogledd Cymru

Mae'r Cambrian News yn chwilio am unigolion a busnesau sy'n tyfu, cynhyrchu ac yn gwerthu'r cynnyrch lleol gorau yng nghanolbarth a gogledd Cymru. Fe fydd yn cynnig gwobrau mewn dau gategori: Pencampwr Gwerthu Uniongyrchol 2010 ac Adwerthwr Bwyd Lleol y Flwyddyn.

Noddi'r categori'r Pencampwr Gwerthu Uniongyrchol gan yr ymgyrch Bwyd Blasus gan Bobl Go Iawn, ac y mae'n agored i gynhyrchwyr unigol, perchnogion siopau fferm, marchnadoedd ffermwyr lleol a threfnwyr marchnadoedd, arwerthwyr ar-lein, cwmnïau llysiau cydweithredol, trefnyddion cynlluniau bocs, a gwerthwr llidiart fferm. Mae categori Adwerthwr Bwyd Lleol y Flwyddyn yn agored i farchnadoedd adwerthu lleol annibynnol sy'n hyrwyddo ac yn arddangos bwydydd lleol.

Bydd y darllenwyr sy'n enwebu enillwyr cystadleuaeth Arwyr Bwyd Lleol y Cambrian News 2010 hefyd yn ennill basgedaid o gynnyrch lleol. Mae Liz Findlay, ffermwr organig o Geredigion sy'n cynhyrchu llysiau, wyau a ffrwythau meddal, eisoes wedi ei henwebu.

I bleidleisio ar-lein, ewch i wefan y Cambrian News.

Stori gynt: Datblygu cyflenwi cywennod organig yng Nghymru
Stori nesaf: Cwrs hyfforddiant ymweliadau ysgolion (CEVAS) ger Aberhonddu, 16/30 Ebrill

Gwybodaeth am fwyd a ffermio organig yng Nghymru
Dylunio'r wefan: mach2media a Technoleg Taliesin Cyf.