
Darparu gwybodaeth am fwyd a ffermio organig yng Nghymru
|

|
mwy o newyddion...
Datblygu delwedd y sector organig yng NghymruMae Canolfan Organig Cymru yn gwahodd cwmnïau cyfathrebu i gynnig am waith datblygu delwedd cynnyrch organig o Gymru. Bydd y gwaith yn gymorth i hyrwyddo cynnyrch organig Cymreig o fewn Cymru ac ar draws y DU am ddwy flynedd.
Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013 a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a'r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Fe ddywedodd Dafydd Owen, Rheolwr Prosiect BOBL, “Mae hwn yn gyfle cyffrous i ddatblygu delwedd y sector organic yng Nghymru yn ystod y ddwy flynedd nesaf a thu hwnt. Mae manteision sustemau organig yn niferus ac yn gymhleth, ac yn anodd ei gyfleu mewn oes lle mae sylw pobl yn medru bod yn fyr iawn. Mae'n rhaid i ni gyfathrebu gyda chwsmeriaid a rhan-ddalwyr er mwyn iddynt ddeall pam for cefnogi cynhyrchwyr organig yn bwysig, a bydd y gwaith yma yn gymorth i ni gyflawni hwn.”
Fe ddywedodd hefyd: “Mae gan y sector organig y potensial i gadarnhau delwedd Cymru am fod yn wlad sy'n wyrdd ac yn cydweithio gyda'r amgylchedd a hefyd i gefnogi datblygiad economi a chynhyrchiant bwyd cynaliadwy. Oherwydd ymrwymiad cynhyrchwyr organig a buddsoddiad gan Lywodraeth Cynulliad Cymru mae wyth y cant o dir ffermio Cymru yn cael ei reoli'n organig yn barod. Mae'n rhaid i ni roi cymorth i gynhyrchwyr i dderbyn premiwm am eu cynnyrch sy'n adlewyrchu ei buddsoddiad nhw yn gynnyrch organig. Mae gan dir organig Cymru'r potensial i roi hwb i ddatblygu'r farchnad ar gyfer yr ystod gyfan o fwydydd rydym yn medru cynhyrchu.”
Mae manylion y gwaith wedi cael eu cyhoeddi ar wefan Sell2Wales. Medrwch ei weld ar: Sell2Wales
Stori gynt: Sioe Frenhinol Cymru Stori nesaf: Digwyddiadau hyfforddi Glastir Mwy o newyddion
|
|