logo Canolfan Organig Cymru
  
Darparu gwybodaeth am fwyd a ffermio organig yng Nghymru
Tanysgrifio i'n cylchlythr

Newyddion organig o Gymru a thu hwnt

mwy o newyddion...

Gwerthu llysiau organig yn yr ysgol

Mae ysgol gynradd yng Ngheredigion wedi bod yn tyfu llysiau organig i'w gwerthau i'r cyhoedd. Sefydlodd Ysgol y Dderi yn Llangybi, Llanbedr Pont Steffan, gydweithredfa fwyd fis Mawrth y llynedd, gan werthu cynnyrch Blaencamel, sef busnes garddwriaethol lleol. Ym mis Mehefin, dechreuodd y Gydweithredfa werthu cynnyrch 'Lush & Lleol', grwp cymunedol sydd yn cefnogi plant Ysgol y Dderi wrth iddynt dyfu ffrwythau a llysiau yn yr ysgol. Arhosodd y siop ar agor hyd ddiwedd tymor yr haf, gyda sesiwn olaf ym mis Medi. Bydd yn ailgychwyn y gwanwyn hwn.

Dywedodd y plant:
Dysgon ni am lysiau newydd ac anarferol ac sut i sillafu enwau llysiau yn Cymraeg a Saesneg.
Dysgon ni sut i trin arian ac newid ac i pwyso cynhyrch. Dysgon ni arogl pob perlysiau.
Dysgon ni sut i tyfu ein bwyd ty allan yn ein gardd ysgol.
Dysgon am milltiroedd yr bwyd yn isel ac wnaethon dweud wrth yr cwsmeriaid faint mor “gwyrdd” rydym ni.

Cynhelir y brosiect gan Raglen Gydweithredol Bwyd yr Uned Adfywio Gwledig.

Stori gynt: Cynnig cyfranddaliadau cymunedol: Fferm Goedwig Llwyn Ffranc
Stori nesaf: Gwobrau'r Gwir Flas 2011/12

Mwy o newyddion

Mewn partneriaeth gyda:
logo ADAS logo Prifysgol Aberystwyth logo Canolfan Ymchwil Organig Elm Farm
Canolfan Organig Cymru, IBERS, Campws Gogerddan
Prifysgol Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3EB
T:01970 622248   E: organic@aber.ac.uk
Cyrff noddi:
logo Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwlediglogo Llywodraeth Cynulliad Cymru
Dylunio'r wefan: mach2media a Technoleg Taliesin Cyf.