logo Canolfan Organig Cymru
  
Darparu gwybodaeth am fwyd a ffermio organig yng Nghymru
Tanysgrifio i'n cylchlythr

Newyddion organig o Gymru a thu hwnt

mwy o newyddion...

Newyddion Tir Glas

Mae'r Ganolfan Datblygu Tir Glas a phrosiect HCC Farming Connect 'Getting to Grips with Grazed Grass' yn awr yn gweithio gydag Andrew Owen, sy'n rhedeg un o ffermydd arddangos Canolfan Organig Cymru, ac sydd eisoes yn fesurydd gwair brwdfrydig iawn! Mae'r dadansoddiad ansawdd o'r tir glas yn y prosiect ar gyfer y mis hwn yn dangos treuliadwyedd trawiadol (71D), protein amrwd o 20.8, a lefelau siwgr uchel. Cadwch eich llygaid yn agored am y diwrnod agored ar y fferm hon yn nes ymlaen yn yr haf.

Gan weithio ar y cyd â Chanolfan Organig Cymru a phrosiect BOBL, y mae'r Ganolfan Datblygu Tir Glas hefyd yn edrych ar dyfu ceirch noeth ar dair fferm er mwyn porthi dofednod. Dyddiau cynnar yw hi eto, ond mae'r cnydau wedi sefydlu'n dda, ac fe fyddwn yn cadw llygaid ar eu cynnydd hyd at eu cynhaeaf ac ar ansawdd y porthiant.

Stori gynt: Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru
Stori nesaf: Cyfrifiad Materion Bwyd 2011

Mwy o newyddion

Mewn partneriaeth gyda:
logo ADAS logo Prifysgol Aberystwyth logo Canolfan Ymchwil Organig Elm Farm
Canolfan Organig Cymru, IBERS, Campws Gogerddan
Prifysgol Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3EB
T:01970 622248   E: organic@aber.ac.uk
Cyrff noddi:
logo Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwlediglogo Llywodraeth Cynulliad Cymru
Dylunio'r wefan: mach2media a Technoleg Taliesin Cyf.