logo Canolfan Organig Cymru
  
Darparu gwybodaeth am fwyd a ffermio organig yng Nghymru
Tanysgrifio i'n cylchlythr

Newyddion organig o Gymru a thu hwnt

mwy o newyddion...

Fforwm Gwastraff Bwyd

Bydd cwmni 'This is Rubbish' yn cynnal Fforwm Gwastraff Bwyd a Gwledd yn y Ganolfan Technoleg Amgen ar ddydd Sadwrn, 5 Tachwedd. Yn ystod y dydd, cynhelir cymysgedd o weithdai, trafodaethau, ffilmiau ac arddangosfa a fydd yn edrych ar achosion ac atebion i'r broblem gwastraff bwyd.

Bydd y siaradwyr yn cynnwys Dr Andy Rees; Pennaeth Strategaeth Gwastraff, Llywodraeth Cynulliad Cymru; Dr Adrian Morley; ymchwilydd cyswllt yn BRASS (Business Relationship, Accountability, Sustainability and Society); Emma Marsh, pennaeth ymgyrch Caru Bwyd Casáu Gwastraff WRAP; a'r Athro Martin Caraher, Darllenydd mewn Polisi Bwyd ac Iechyd yn City University. Gyda'r nos, cynhelir gwledd a fydd yn defnyddio bwyd a fyddai, fel arall, wedi mynd yn wastraff. Dim ond hyn a hyn o bobl a gaiff fynychu'r gynhadledd, felly, ewch ati i gadw lle o flaen llaw, a hynny drwy www.thisisrubbish.org.uk.

Stori gynt: Rhagor o opsiynau Glastir Angen cymryd camau erbyn 17 Hydref
Stori nesaf: Profion pridd

Mwy o newyddion

Mewn partneriaeth gyda:
logo ADAS logo Prifysgol Aberystwyth logo Canolfan Ymchwil Organig Elm Farm
Canolfan Organig Cymru, IBERS, Campws Gogerddan
Prifysgol Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3EB
T:01970 622248   E: organic@aber.ac.uk
Cyrff noddi:
logo Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwlediglogo Llywodraeth Cynulliad Cymru
Dylunio'r wefan: mach2media a Technoleg Taliesin Cyf.