logo Canolfan Organig Cymru
  
Darparu gwybodaeth am fwyd a ffermio organig yng Nghymru
Tanysgrifio i'n cylchlythr

Newyddion organig o Gymru a thu hwnt

mwy o newyddion...

Llongyfarchiadau i enillwyr Gwobrau Gwir Flas organig

Roedd chwe gwobr aur am gynhyrchion organig ymhlith yr enillwyr organig ar noson wobrwyo Gwir Flas Cymru yn Venu Cymru, Llandudno. Derbyniodd pedwar o gynhyrchion organig eraill wobrau arian, a thri arall wobrau efydd.

Cynhaliwyd gwobrau dathlu 10 mlynedd mewn cysylltiad â busnes llaeth organig llwyddiannus Rachel's o Aberystwyth. Maent yn rhoi cydnabyddiaeth i rai o'r cynhyrchion bwyd a diod o Gymru sydd wedi torri tir newydd mewn rhyw ffordd neu'i gilydd.

Dyma ddywedodd Sue Fowler, Cyfarwyddwr Canolfan Organig Cymru: “Gwych yw gweid cynhyrchwyr organig o Gymru yn derbyn y clod y maent yn ei haeddu. Maent yn gweithio'n galed i ennill statws organig ardystiedig, ac y mae'r gwobrau'n adlewyrchu ansawdd y cynnyrch organig a ddaw o Gymru heddiw.”

Dyma'r enillwyr organig: Graig Farm Organics, Powys; Sanclêr Organic, Sir Gaerfyrddin; Holden Farm Dairy, Llanbedr Pont Steffan; Welsh Farmhouse Apple Juice, Powys; The Celt Experience Ltd, Caerffili; Primrose Organic Centre, Powys; The Anglesey Sea Salt Company, Ynys Môn; Capestone Organic Poultry Ltd, Sir Benfro. darllen mwy   

Stori gynt: Guaranteed minimum price agreed for organic lamb
Stori nesaf:

Mwy o newyddion

Mewn partneriaeth gyda:
logo ADAS logo Prifysgol Aberystwyth logo Canolfan Ymchwil Organig Elm Farm
Canolfan Organig Cymru, IBERS, Campws Gogerddan
Prifysgol Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3EB
T:01970 622248   E: organic@aber.ac.uk
Cyrff noddi:
logo Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwlediglogo Llywodraeth Cynulliad Cymru
Dylunio'r wefan: mach2media a Technoleg Taliesin Cyf.