logo Canolfan Organig Cymru
  
Darparu gwybodaeth am fwyd a ffermio organig yng Nghymru
Tanysgrifio i'n cylchlythr

Newyddion organig o Gymru a thu hwnt

mwy o newyddion...

Ystad y Rug yn troi’i golygon dramor am werthiant ar ôl ennill gwobr allforion arbennig

Cipiodd Ystad y Rug wobr arbennig am allforion yng Ngwobrau Bwyd a Diod Cymru: y Gwir Flas eleni.

Derbyniodd y fferm organig 2,500 erw yn Sir Ddinbych y wobr aur yng nghategori Allforion Cymru'n seiliedig ar ei llwyddiant dros y 12 mis diwethaf.

Ar hyn o bryd, mae'r busnes, sy'n cyflogi 80 o bobl, yn gwerthu tua 16% o'i gig i farchnadoedd tramor gan gynnwys Hong Kong, Singapôr a Macao ac mae'n gobeithio ehangu ei gronfa cwsmeriaid rhyngwladol ymhellach.

Yn ôl y rheolwr gwerthiant, Joan Redmond: “Mae ein hardystio organig yn hynod bwysig yn y DU ond yn fwy byth gyda'n cwsmeriaid yn y Dwyrain Pell, sy'n ymwybodol o'u hiechyd a hefyd yn chwilio am sicrwydd bod yr anifeiliaid yn cael eu gofalu amdanynt yn iawn.

“Mae gwerth brand y Rug wedi tyfu dros y 10 mlynedd diwethaf, a chyda statws PGI Ewrop ar gyfer cig oen ac eidion a'n hardystio organig, mae hyn yn golygu bod ein cynhyrchion wedi mynd yn andros o boblogaidd ar draws y byd.”

“Gan fod safonau Cymru wedi'u hategu yn y gyfraith gan reoliadau'r UE”, ychwanegodd Tony Little o Ganolfan Organig Cymru, mae'n rhoi i gwsmeriaid yn y marchnadoedd allforio yr hyder sydd ei angen arnyn nhw i brynu bwyd Cymreig.” darllen mwy   

Stori gynt: Y Gymru Organig yn blasu llwyddiant yn y Gwobrau Cenedlaethol
Stori nesaf: Ymgyrch Llaeth Organig mewn Ysgolion

Mwy o newyddion

Mewn partneriaeth gyda:
logo ADAS logo Prifysgol Aberystwyth logo Canolfan Ymchwil Organig Elm Farm
Canolfan Organig Cymru, IBERS, Campws Gogerddan
Prifysgol Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3EB
T:01970 622248   E: organic@aber.ac.uk
Cyrff noddi:
logo Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwlediglogo Llywodraeth Cynulliad Cymru
Dylunio'r wefan: mach2media a Technoleg Taliesin Cyf.