logo Canolfan Organig Cymru
  
Darparu gwybodaeth am fwyd a ffermio organig yng Nghymru
Tanysgrifio i'n cylchlythr

Newyddion organig o Gymru a thu hwnt

mwy o newyddion...

Cwrs Hyfforddiant Manwerthu a Rhwydweithio, 5 Mawrth 2013

Mae Canolfan Organig Cymru'n cynnig cyfle hyfforddi cyffrous ar gyfer 2013 yr ydym wedi'i ddatblygu drwy gydweithio'n agos â nifer o fusnesau organig. Ni godir tâl am yr hyfforddiant yma sy'n cael ei gynnig fel rhan o'r prosiect BOBL.

Mae'r hyfforddiant yn cynnwys hyfforddiant a rhwydweithio off-site a wedyn ymwelida can yr arbenigwr i'ch siop. Bydd y sesiwn yn:

a) Gyfle i fan werthwyr rhwydweithio gyda pobl sy'n gwynebu'r un heriau
b) Arolwg o'ch siop mewn golau newydd gan arbenigwr
c) Gymorth i staff i ddeall egwyddorion organig a'r pwysigrwydd o cadwyni cyflenwi lleol.
Deunyddiau manwerthu
Yn ogystal â'r hyfforddiant gallwn gynnig deunyddiau man gwerthu trawiadol a llawn gwybodaeth i chi ar gyfer eich siop i helpu i ysgogi gwerthiant y cynnyrch organig rydych chi'n gynnig. Nod y deunyddiau manwerthu yw tynnu sylw at y ffeithiau am nwyddau organig drwy gwestiynau ac atebion, i helpu cwsmeriaid i ddarganfod nwyddau organig yn eich siop.

Buddion: Mae deunyddiau manwerthu trawiadol yn medru denu cwsmeriaid a gwella'u profiad yn y siop, yn ogystal a'u helpu i ddarganfod buddion bwyd organig.

Hoffem gynnig y gwasanaeth hwn i chi a fydd yn cael ei deilwra i'ch anghenion penodol. I'n helpu i wneud hynny cwblhewch y ffurflen isod ar-lein erbyn 11 Ionawr 2013. Os oes unrhyw ymholiadau gennych, cysylltwch â Dafydd Owen ar 01970 622953 odo@aber.ac.uk. darllen mwy   

Stori gynt: Adroddiadau Cymunedau Bwyd Cynaliadwy nawr ar gael ar-lein
Stori nesaf: Ymchwil Ffermio iír Dyfodol: Cymdeithas y Pridd yn rhoi ffermwyr wrth y llyw

Mwy o newyddion

Mewn partneriaeth gyda:
logo ADAS logo Prifysgol Aberystwyth logo Canolfan Ymchwil Organig Elm Farm
Canolfan Organig Cymru, IBERS, Campws Gogerddan
Prifysgol Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3EB
T:01970 622248   E: organic@aber.ac.uk
Cyrff noddi:
logo Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwlediglogo Llywodraeth Cynulliad Cymru
Dylunio'r wefan: mach2media a Technoleg Taliesin Cyf.