logo Canolfan Organig Cymru
  
Darparu gwybodaeth am fwyd a ffermio organig yng Nghymru
Tanysgrifio i'n cylchlythr

Newyddion organig o Gymru a thu hwnt

mwy o newyddion...

Hyfforddiant: Gwneud y gorau o'r cyfryngau 19 Chwefror 2013, Penpont, Aberhonddu

Mae Canolfan Organig Cymru yn cynnig diwrnod o hyfforddiant mewn gwneud y gorau o'r cyfryngau ar 19 Chwefror 2013. Ni fyddwch yn gorfod talu am yr hyfforddiant sy'n cael ei gynnig fel rhan o'r prosiect BOBL.

Mae'r diwrnod yn gyfle prin i weithio gyda darlledwyr profiadol a fydd yn medru magu'r hyder sydd angen arnoch i wneud y gorau o'r cyfleuon sy'n codi trwy'r cyfryngau. Mae'r diwrnod llawn yn cynnwys cyngor ar ddatblygu'r negeuson rydych eisiau cyfathrebu a chyfweliadau. Mae'r prynhawn yn cynnwys arolwg ar ddefnyddio Weplyfr a Trydar, heb llosgu'ch diwrnod ar-lein, a deall sut medrant cyfrannu at eich bywoliaeth.

Emily Davies, Dofednod Organig Capestone:
'Roedd yr hyfforddiant yn arbennig o fuddiol. Ro'n i'n ansicr beth i ddisgwyl ond erbyn diwedd y dydd roeddwn wedi datblygu'n sgiliau siarad cyhoeddus a thechnegau cyfryngol ac roedd yn wir hwb i'n hyder.'

Lleoliad: Penpont, Aberhonddu LD3 8EU.
Manylion cyswllt: odo@aber.ac.uk 01970 622953 darllen mwy   

Stori gynt: Cefnogaeth i ymweld Biofach 2013
Stori nesaf: Christine Tacon yn cael ei phenodi fel Dyfarnwr Cod Cyflenwi Bwydydd

Mwy o newyddion

Mewn partneriaeth gyda:
logo ADAS logo Prifysgol Aberystwyth logo Canolfan Ymchwil Organig Elm Farm
Canolfan Organig Cymru, IBERS, Campws Gogerddan
Prifysgol Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3EB
T:01970 622248   E: organic@aber.ac.uk
Cyrff noddi:
logo Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwlediglogo Llywodraeth Cynulliad Cymru
Dylunio'r wefan: mach2media a Technoleg Taliesin Cyf.