logo Canolfan Organig Cymru
  
Darparu gwybodaeth am fwyd a ffermio organig yng Nghymru
Tanysgrifio i'n cylchlythr

Newyddion organig o Gymru a thu hwnt

mwy o newyddion...

Ystod hufen iâ newydd

Mae'r ffermwyr organig Anna a David Taylor yn cynnig ystod newydd o hufen iâ o'r enw Chilly Cow sydd wedi'i wneud o laeth a gynhyrchir gan eu buches o 80 o fuchod brown y Swistir. Cartref y fenter newydd yw Stryt Fawr, fferm 60ha yn Sir Ddinbych a drowyd yn organig ganddynt ym 1999. Yn ôl Anna, “Cynhyrchydd arbenigol fyddwn ni sy'n darparu cynnyrch o'r radd flaenaf gan werthu i farchnadoedd lleol yn unig. Mae cynhyrchu sypiau bach ar y tro yn golygu y gallwn ni gynnig blasau sydd wedi'u teilwra'n arbennig i gwsmeriaid unigol.” Chilly Cow fydd eu cynnyrch unigryw, mae'n debyg, sef hufen iâ llaeth di-flas. Ar hyn o bryd, maent yn canolbwyntio'n bennaf ar y sector gwasanaethau bwyd, ond bydd cwsmeriaid yn gallu prynu'n uniongyrchol o'r fferm mewn tybiau 120ml a 500ml. Mae Anna hefyd yn bwriadu gwerthu mewn sioeau gan ddechrau gyda Gŵyl Harbwr y Rhyl ar ddiwedd mis Mai. Rydym yn dymuno pob llwyddiant iddynt gyda'u menter newydd. Gweler y Daily Post. darllen mwy   

Stori gynt: Ymateb Canolfan Organig Cymru i Ymgynghoriad Glastir
Stori nesaf: Gwyl Wanwyn 17-18 Mai 2014

Mwy o newyddion

Mewn partneriaeth gyda:
logo ADAS logo Prifysgol Aberystwyth logo Canolfan Ymchwil Organig Elm Farm
Canolfan Organig Cymru, IBERS, Campws Gogerddan
Prifysgol Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3EB
T:01970 622248   E: organic@aber.ac.uk
Cyrff noddi:
logo Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwlediglogo Llywodraeth Cynulliad Cymru
Dylunio'r wefan: mach2media a Technoleg Taliesin Cyf.