
Darparu gwybodaeth am fwyd a ffermio organig yng Nghymru
|

|
mwy o newyddion...
Gwerthoedd Bwyd ar draws Gymru
Mae wedi bod yn fis prysur i'n prosiect Gwerthoedd Bwyd sy'n edrych yn fanwl ar sut rydym yn cyfleu negeseuon am fwyd organig gan geisio cael gwybod beth sydd wir yn taro deuddeg gyda phobl, sydd, yn wahanol i ni, ddim yn siarad amdano drwy'r dydd! Beth maent wir yn poeni amdano? Sut gall bwyd organig ddiwallu'r anghenion hyn a sut rydym yn cyfleu hynny?
Ym mis Chwefror, buom yn gweithio gyda dwy gymuned wahanol iawn; y naill mewn dwy ardal yng nghanol dinas Caerdydd Adamsdown a'r Sblot, y llall yng nghefn gwlad Gwynedd, o gwmpas Penrhyndeudraeth, gyda rhai canlyniadau diddorol iawn. Weithiau mae cyffelybiaethau mor drawiadol â gwahaniaethau. Yr un mor bwysig yw bwyd fel ffordd o feithrin neu gynnal cymuned, p'un a ydym yn sôn am ryseitiau cawl o'r Swdan, lobsgows neu brydau ysgol. Darllenwch flog Jane Powell am fwy.
Ar ddechrau mis Mawrth, cynhaliwyd digwyddiad gennym i staff a myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth i drafod ffynonellau bwyd a sut i gwtogi ar wastraff bwyd. Bu'r digwyddiad yn datgelu cryn dipyn o frwdfrydedd am ddefnyddio bwyd yn well, compostio, tyfu bwyd a sefydlu menter bwyd organig gydweithredol.
Wedyn wythnos hon buom yn cefnogi digwyddiad i drafod dyfodol y Drenewydd fel tref fwyd, gyda sgwrs ysbrydoledig gan Incredible Edible Todmorden a chofnodion gwledol hardd iawn.
Stori gynt: TIPI/TP Organics a Chynllun Gweithredu Rhanddeiliaid Organig Stori nesaf: Mwy o newyddion
|
|