logo Canolfan Organig Cymru
  
Darparu gwybodaeth am fwyd a ffermio organig yng Nghymru
Tanysgrifio i'n cylchlythr

Newyddion organig o Gymru a thu hwnt

mwy o newyddion...

Gwobr i arloeswr ffermio organig

Mae Bob Kennard wedi cael ei wneud yn Aelod o'r Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol am ei waith arloesol y maes cynhyrchu bwyd organig a marchnata cydweithrediadol.

Sefydlwyd Cynhyrchwyr y Graig gan Bob a'r wraig Carolyn yn gynnar yn y 1990au i gyflenwi amrywiaeth o stoc i'r brand organig arloesol, Graig Farm Organics, ar gyfer eu cigoedd organig arobryn o'r radd flaenaf.

Ers hynny, mae wedi tyfu i gynnwys dros 350 o ffermwyr organig ar draws Cymru a'r Gororau sy'n cydweithio i farchnata eu da byw, yn bennaf trwy sector yr archfarchnadoedd.

Yn 2006, sefydlwyd Graig Producers South West i gynnwys de-orllewin Lloegr. Mae Cynhyrchwyr y Graig hefyd yn cynrychioli buddiannau'r gydweithfa da byw organig yn yr Alban Caledonian Organics.

I gael mwy o fanylion, ewch i www.graigproducers.co.uk

Stori gynt: Cwrs hyfforddiant ymweliadau ysgolion (CEVAS) ger Aberhonddu, 16/30 Ebrill
Stori nesaf: Arolwg o Agweddau Defnyddwyr

Mwy o newyddion

Mewn partneriaeth gyda:
logo ADAS logo Prifysgol Aberystwyth logo Canolfan Ymchwil Organig Elm Farm
Canolfan Organig Cymru, IBERS, Campws Gogerddan
Prifysgol Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3EB
T:01970 622248   E: organic@aber.ac.uk
Cyrff noddi:
logo Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwlediglogo Llywodraeth Cynulliad Cymru
Dylunio'r wefan: mach2media a Technoleg Taliesin Cyf.