logo Canolfan Organig Cymru
  
Darparu gwybodaeth am fwyd a ffermio organig yng Nghymru
Tanysgrifio i'n cylchlythr

Datganiad i'r Wasg

Bwyd, Gwerthoedd, Tegwch: Sut mae gwerthoedd yn dylanwadu ar y system fwyd a bywyd yng Nghymru

Mae pobl ar draws Cymru o'r farn y dylai bwyd ffres, iachus fod ar gael i bawb, beth bynnag yw eu statws cymdeithasol. Nid nwydd moethus y dylai bwyd da fod. Mae pobl hefyd yn poeni am darddiad eu bwyd ac mae mwy a mwy ohonom eisiau dod i gysylltiad â thyfwyr a'r sgiliau sy'n ymwneud â chynhyrchu bwyd da.

Dyma ychydig yn unig o'r canfyddiadau o adroddiad newydd ar werthoedd yn y system fwyd a gyhoeddwyd ar y cyd gan Ganolfan Organig Cymru, Prifysgol Aberystwyth a Chanolfan Ymchwil Er Budd y Cyhoedd (PIRC) a ddefnyddiodd gyfres o ddigwyddiadau bwyd cymunedol i ymchwilio i'r gwerthoedd y mae pobl yn eu mynegi pan fyddant yn siarad am fwyd.
Wrth esbonio'r ysbrydoliaeth y tu ôl i'r ymchwil hon, dywedodd Jane Powell o Ganolfan Organig Cymru:

“Mae bwyd organig yn seiliedig ar weledigaeth o bridd iach sy'n cynnal cymdeithas iach, nid cynnyrch bwyd fel gweithgarwch economaidd yn unig. Roedden ni am weld a yw pobl yng Nghymru'n rhannu'r farn honno ar fwyd, a dw i'n meddwl i ryw raddau eu bod nhw. Nid prisiau'n unig sy'n bwysig iddyn nhw, a dw i'n meddwl bod pobl am weld system fwyd decach sydd mewn cydbwysedd â natur.”

Mae'r adroddiad yn tynnu ar gorff o waith o'r enw Achos Cyffredin (Common Cause), sy'n ceisio cymhwyso dealltwriaeth o werthoedd at strategaethau ar gyfer newid cymdeithasol ysbrydoledig. Gwerthoedd yw'r egwyddorion arweiniol sy'n sylfaenol i agweddau ac ymddygiad gan gynnwys, er enghraifft, eangfrydedd, diogelwch, cyfiawnder cymdeithasol ac uchelgais. Maent yn cael eu mynegi yn yr iaith rydym yn ei defnyddio wrth siarad am fwyd – er enghraifft ai nwydd, pleser, hawl ddynol neu fathodyn hunaniaeth yw e?

Yn ôl Rebecca Sanderson, PIRC:
“Mae pawb yn rhannu gwerthoedd a gall cymdeithas siapio'r gwerthoedd hyn drwy atgyfnerthu negesau arbennig. Nid yw gwerthoedd wedi'u naddu mewn carreg – gallant gael eu cryfhau fel cyhyrau fwya i gyd y byddwn yn eu defnyddio. Mae hyn yn bwysig oherwydd bod angen i ni sicrhau bod ein sefydliadau a'n polisïau wir yn adlewyrchu ac yn rhoi ar waith y gwerthoedd y mae pobl yn poeni amdanynt – fel arall, yn ddiarwybod, gallwn ni eu tanseilio.”
Edrychodd yr adroddiad hefyd ar bolisi Llywodraeth Cymru a gweld y gallai bwyd chwarae rôl bwysig wrth sefydlu agenda cynaliadwyedd yng Nghymru.

Yn ôl Dr Sophie Wynne-Jones o Brifysgol Aberystwyth:
“Bydd bwyd yn ganolog i weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae bwyd yn bwysig i bawb. Mae'n cysylltu materion fel tlodi, llesiant a'r amgylchedd – ar draws gwahanol adrannau'r llywodraeth. Yn rhy aml o lawer, rydym yn delio â'r rhain ar wahân, ond drwy gael hyd i gysylltiadau drwy'r gwerthoedd sy'n tanategu ein dewisiadau a'n pryderon gallwn weld y darlun mawr a chydweithio yn fwy effeithiol.”

Lansiwyd yr adroddiad ar 3 Mehefin mewn cynhadledd yng Nghaerdydd, lle bu Peter Davies, Comisiynydd y Dyfodol Cynaliadwy a Jane Davidson o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn arwain trafodaeth ar sut olwg a allai fod ar well system fwyd i Gymru gan alw am Faniffesto Bwyd. Mae gweithgor bellach yn cael ei sefydlu i lunio maniffesto bwyd i Gymru.

Diwedd
Gwybodaeth bellach

Jane Powell, 01970 621530 or 07929 857173 jnp@aber.ac.uk

Sophie Wynne-Jones, 01970 622595 or sxw@aber.ac.uk.

Mewn partneriaeth gyda:
logo ADAS logo Prifysgol Aberystwyth logo Canolfan Ymchwil Organig Elm Farm
Canolfan Organig Cymru, IBERS, Campws Gogerddan
Prifysgol Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3EB
T:01970 622248   E: organic@aber.ac.uk
Cyrff noddi:
logo Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwlediglogo Llywodraeth Cynulliad Cymru
Dylunio'r wefan: mach2media a Technoleg Taliesin Cyf.