DRAFT PAGE update
![]() Darparu gwybodaeth am fwyd a ffermio organig yng Nghymru | ||
![]() ![]() |
Ffermio organig wedi'i esbonio yma![]() Mae ffermio organig yn cydweithio ag ecosystemau naturiol a phrosesau biolegol i gynhyrchu bwyd o safon uchel, yn cynnal a hyrwyddo bioamrywiaeth ar ffermydd a'u cyffiniau ac yn hybu gwobrau teg i ffermwyr ac eraill yn y system fwyd. Mae ffermwyr organig yn defnyddio codlysiau i ddal nitrogen o'r awyr yn hytrach na defnyddio gwrteithiau artiffisial, gan ddibynnu ar gylchdroi cnydau ac amrywiaeth i hybu dulliau naturiol o reoli chwyn, plâu a chlefydau yn lle plaladdwyr. Cedwir anifeiliaid ar y maes gyda mynediad i dir pori sy'n gadael iddynt fynegi eu hymddygiadau naturiol ac mae defnydd helaethach o borfeydd yn sicrhau eu bod yn cyfannu yn hytrach na chystadlu ag anghenion bwyd dynol. Mae tail a gwaddodion cnydau'n cael eu hailgylchu i helpu i gau cylchrediadau maethynnau gan leihau gwastraff a chadw adnoddau nad ydynt yn adnewyddadwy. Mwy |
|
Canolfan Organig Cymru, IBERS, Campws Gogerddan Prifysgol Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3EB T:01970 622248 E: organic@aber.ac.uk |