logo Canolfan Organig Cymru
  
Darparu gwybodaeth am fwyd a ffermio organig yng Nghymru
Tanysgrifio i'n cylchlythr

Cyfle yn y Farchnad Cynllun Cyflenwyr y Nod Arlwyo

Catering Mrk logo
Mae Cynllun Cyflenwyr y Nod Arlwyo Cymdeithas y Pridd yn dod ag arlwywyr a chyflenwyr yn agosach i'w gilydd. Mae'r cydweithrediad hwn yn helpu cynhyrchwyr ac arlwywyr i ddarparu bwyd organig a lleol y gall cwsmeriaid ymddiried ynddo.

Mae dros 600,000 o brydau bwyd o safon y Nod Arlwyo bellach yn cael eu serfio bob dydd mewn ysgolion, ysbytai, prifysgolion, meithrinfeydd a bwytai staff ar draws y DU. Wrth i'r Nod Arlwyo dyfu, felly hefyd y galw am gynhyrchion sy'n cyrraedd y Safonau. Mae Cynllun Cyflenwyr y Nod Arlwyo'n agor marchnadoedd posibl i gyfanwerthwyr a chynhyrchwyr cynhyrchion maes, organig a Masnach Deg.

Drwy ymaelodi fel cyflenwr heddiw, gallai'ch helpu i:
Gyrraedd marchnadoedd newydd
Cael min gystadleuol
Ymgysylltu â chynllun arferion gorau cydnabyddedig
Dod i gysylltiad â chwsmeriaid a chysylltiadau busnes newydd

Cewch wybod mwy gan Gymdeithas y Pridd yma




Mewn partneriaeth gyda:
logo ADAS logo Prifysgol Aberystwyth logo Canolfan Ymchwil Organig Elm Farm
Canolfan Organig Cymru, IBERS, Campws Gogerddan
Prifysgol Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3EB
T:01970 622248   E: organic@aber.ac.uk
Cyrff noddi:
logo Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwlediglogo Llywodraeth Cynulliad Cymru
Dylunio'r wefan: mach2media a Technoleg Taliesin Cyf.