Non Gamstop CasinoGambling Sites Not On GamstopOnline Casino Not On GamstopBest Non Gamstop CasinosNew Betting Sites UK
Organic Centre Wales logo
  
Providing information on organic food and farming in Wales
Subscribe to our newsletter

Datganiad i’r Wasg

Organig : Cynhadledd Gwell Busnes Cymru

Mae Canolfan Organig Cymru wedi cyhoeddi dyddiad a thema ei chynhadledd flynyddol yn Llanelwedd.

Cynhelir y gynhadledd eleni, Organig: Gwell Busnes, ddydd Iau 27 Hydref 2011 ym Maes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd. Mae’r gynhadledd yn darparu cyfle i ffermwyr, cynhyrchwyr a busnesau organig i ddod ynghyd a thrafod y problemau sy’n eu hwynebu ar hyn o bryd, dysgu o brofiadau ei gilydd a rhannu arferion da.

Gyda chyfraniadau gan rai o arweinwyr y sector, gan gynnwys y Dirprwy Weinidog dros Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, Alun Davies AC; Helen Browning, Cyfarwyddwr Cymdeithas y Pridd a Sue Fowler, Cyfarwyddwr Canolfan Organig Cymru, bydd y gynhadledd yn darparu llwyfan i drafod y problemau sy’n wynebu’r diwydiant organig.

Yn ôl Sue Fowler, Cyfarwyddwr Canolfan Organig Cymru: “Mae cynhadledd flynyddol Canolfan Organig Cymru yn galluogi gwir ddeialog rhwng busnesau organig ym mhob cam ar hyd y gadwyn gyflenwi – o ffermwyr i brynwyr a llunwyr polisi.

“Bob blwyddyn, rydym yn derbyn adborth gwerthfawr gan gynrychiolwyr am faint maen nhw wedi elwa drwy fynychu’r gynhadledd ac rydym yn hyderus y bydd y digwyddiad eleni yr un mor werthfawr. Rydym yn rhagweld ymateb brwd gan ffermwyr, gwneuthurwyr polisi a chyrff cynghori fel ei gilydd ac yn edrych ymlaen at eu croesawu i gyd i Faes y Sioe Frenhinol.”

Mae amrywiaeth eang o destunau ar yr agenda – o fodelau ffermio amgen i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol, polisïau a safbwyntiau’r UE i herio’r economi bresennol a datblygu busnes ffyniannus. Mae rhaglen y diwrnod yn cynnwys llu o gyflwyniadau a gweithdai a chyfle, ar ddiwedd y diwrnod, i rwydweithio ymhellach mewn ffair fasnach busnes i fusnes.

Ceir manylion llawn o’r gynhadledd, gan gynnwys sut i archebu lle, ar wefan Canolfan Organig Cymru www.organiccentrewales.org.uk
Diwedd

Am wybodaeth bellach: Cysylltwch ag Alwena Hughes Moakes, [email protected] 01970 800 400 / 07779 101 351.

Nodiadau i Olygyddion:
Mae cyfweliadau i’r cyfryngau â’r prif gyfranwyr ar gael cyn ac ar y diwrnod. Cysylltwch ag Alwena Hughes Moakes i drefnu.

Canolfan Organig Cymru
Yr adnodd cenedlaethol yw Canolfan Organig Cymru i ddefnyddwyr, ffermwyr a gwneuthurwyr polisi sy’n ymrwymedig i fwyd a ffermio mwy cynaliadwy yng Nghymru. Gyda’i chartref ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae’r Ganolfan yn cael ei rheoli gan bartneriaeth sy’n cynnwys ADAS, Canolfan Ymchwil Organig Elm Farm a Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth. Am fanylion pellach ymwelwch â: www.organiccentrewales.org.uk.

Bydd y gynhadledd yn amlygu peth o waith y prosiect Gwell Cysylltiadau Busnes Organig (BOBL) a reolir gan Ganolfan Organig Cymru i gefnogi’r sector a’i ariannu gan Gynllun Effeithlonrwydd y Gadwyn Gyflenwi yn rhan o Gynllun Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru. Bwriad y prosiect yw cynorthwyo’r cynhyrchydd cynradd yng Nghymru a meithrin marchnad ar gyfer cynnyrch organig Cymreig mewn ffordd gynaliadwy. Mae’r prosiect yn datblygu marchnadoedd hen a newydd i gynnyrch organig gan sbarduno arloesedd ar bob lefel yn y gadwyn gyflenwi ar yr un pryd. Y nod cyffredinol yw cynnal sector organig ffyniannus yng Nghymru fel y gellir llwyr wireddu manteision buddsoddi gan Lywodraeth Cymru yn y Cynllun Ffermio Organig er mwyn creu buddion amaeth-amgylcheddol yn ogystal ag yng Nghynllun Gweithredu Organig Cymru i gefnogi datblygu gwledig a chynhyrchu bwyd yn gynaliadwy.

Ariennir Gwasanaeth Gwybodaeth am Droi’n Organig gan Lywodraeth Cymru i ddarparu gwybodaeth i gynhyrchwyr, i’w galluogi i wneud penderfyniad gwybodus ynglŷn â newid i reoli ac ardystio organig – mae’r llinell gymorth, pecyn gwybodaeth a hyd at dri ymweliad fferm di-dâl ar gael. Cysylltwch â llinell gymorth Canolfan Organig Cymru ar: 01970 622100.

Bydd cyfnod gwneud cais i’r Cynllun Troi at Ffermio Organig 2012 ar gael rhwng 3 Hydref a 4 Tachwedd 2011. Bydd yn rhoi cymorth i dir sy’n dechrau troi’n organig rhwng 2 Ionawr 2011 ac 1 Ionawr 2012. Rhaid i geisiadau gael eu hategu gan gynllun troi’n organig, ac efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth pellach wrth baratoi’r cynllun hwn drwy’r Gwasanaeth Gwybodaeth am Droi’n Organig. Cysylltwch â’r Llinell Gymorth ar 01970 622100 am fwy o fanylion.

In partnership with
ADAS logo Aberystwyth University logo Organic Research Centre Elm Farm logo
Organic Centre Wales, IBERS, Gogerddan Campus
Aberystwyth University, Ceredigion, SY23 3EB
T:01970 622248   E: [email protected]
Funding bodies
logo of the European Agricultural Fund for Rural DevelopmentWelsh Assembly Government logo

Useful resources

Website design: mach2media and Technoleg Taliesin Cyf.