![]() Providing information on organic food and farming in Wales | ||
![]()
|
Ynglŷn â Chanolfan Organig Cymru:![]() Sefydlwyd Canolfan Organig Cymru yn 2000 fel canolbwynt i daenu gwybodaeth am fwyd a ffermio organig yng Nghymru i gynhyrchwyr a phartïon eraill sydd â diddordeb. Yn 2003, cytunwyd y dylai ymestyn ei ffocws i gynnwys addysg gyhoeddus, caffael cyhoeddus, datblygu polisi a strategaeth, gan ddarparu fel hyn gefnogaeth i’r holl gymuned organig yng Nghymru. Fe’i lleolir ym Mhrifysgol Aberystwyth. Rheolir y Ganolfan ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth gan bartneriaeth sy’n cynnwys tri sy’n weithgar ym maes ymchwil ffermio a throsglwyddo gwybodaeth organig yng Nghymru: ADAS Cymru, The Organic Research Centre Elm Farm, a Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig Prifysgol Cymru Aberystwyth. Mae staff creiddiol y Ganolfan yn gyfrifol am gydlynu’r gwahanol feysydd gweithgarwch gyda’r partneriaid yn gyfrifol i raddau helaeth am ddosbaarthu’r gwasanaethau i gynhyrchwyr ac eraill. Mae’r Ganolfan wedi gael ei gyllido gan Lywodraeth Cymru (LlC) trwy gontract ar gyfer y Gwasanaeth Gwybodaeth Trosi Organig, gydag arian ychwanegol gan EAFRD yr Undeb Ewropeaidd sydd yn darparu prosiect Effeithlonrwydd y Gadwn Gyflenwi Gwell Gysylltiadau Busnes Organig ar gyfer y sector organig. Fe ddaeth y prosiect BOBL, ac felly’r cyllid i gyflogi staff penodol i’r maes yng Nghanolfan Organig Cymru, i ben 31 Awst 2015. Mae’r Ganolfan yn parhau, er yn fwy fel ‘rhith-ganolfan’, gyda chefnogaeth ei phartneriaid y Ganolfan Ymchwil Organig, IBERS ac ADAS gyda chyllid yn dal i ddod oddi wrth Lywodraeth Cymru. Bydd y wefan a’r llinell gymorth (01970 622100) yn dal i weithredu ac hefyd yr efwletin misol. Cliciwch fan yma i danysgrifio. Rhestr y staff | |
Organic Centre Wales, IBERS, Gogerddan Campus Aberystwyth University, Ceredigion, SY23 3EB T:01970 622248 E: [email protected] | ||