Non Gamstop CasinoGambling Sites Not On GamstopOnline Casino Not On GamstopBest Non Gamstop CasinosNew Betting Sites UK
Organic Centre Wales logo
  
Providing information on organic food and farming in Wales
Subscribe to our newsletter

Cynyddu’ch Cynaliadwyedd


Mae creu busnes cynaliadwy a all helpu’r amgylchedd a chefnogi datblygiad hirdymor eich busnes yn hollbwysig i’w lwyddiant a’r egwyddorion organig. Gan gydnabod hyn, mae dau brif brosiect gan BOBL yn y maes hwn, Pecyn Cymorth Cynaliadwyedd i’ch helpu i arbed arian a gwella’ch ôl troed, a phrosiect sy’n edrych ar wahanol fwydydd cynaliadwy i ddofednod.

Mae Pecyn Cymorth Cynaliadwyedd BOBL wedi’i ddatblygu i gefnogi busnesau organig yng Nghymru sydd eisiau deall a gwella cynaliadwyedd eu gweithredoedd a’u cadwyni cyflenwi. Gyda 27 o fusnesau organig Cymru’n cymryd rhan, gallodd y prosiect ymgysylltu â chroestoriad helaeth o’r sector organig, gan amrywio o odro i gig, cynnyrch ffres i gynhyrchion prosesedig a manwerthu.
Defnyddiwch y Pecyn Cymort i asesu’ch cymwysterau gwyrdd eich hun, adnabod arbedion costau a gwella cynaliadwyedd a chydnerthedd eich busnes.

Gwneud i borthiant dofednod fod yn fwy cynaliadwy

Mae porthiant dofednod organig yn dibynnu’n drwm ar gynhwysion sydd wedi’u mewnforio, rhywbeth nad yw’n gydnaws ag egwyddorion organig ac sy’n gadael cynhyrchwyr ar drugaredd marchnadoedd byd-eang anwadal. Mae BOBL wedi edrych ar dri gwahanol fath o borthiant: blodau haul, pys a ffa a cheirch noeth.

Tyfu rhywbeth gwahanol: Fel arfer mae blodau haul yn cael eu tyfu ar gyfer eu holew ac mae’r blawd sy’n weddill yn ffurfio rhan o ddeiet dofednod ers dyddiau lawer. Ond beth pe tasen ni’n mynd ati i’w tyfu’n bennaf fel porthiant uchel ei brotein a’i egni? Mae’r adroddiad a’r llyfryn crynodeb report and summary booklet::yma , a baratowyd gan y Ganolfan Ymchwil Organig, yn cyflwyno’r achos maethol gan ddangos ar bapur ei bod yn bosibl tyfu’r cnwd hwn mewn rhannau o Gymru. Bydd treialon ar y fferm gyda Dofednod Organig Capestone yn Sir Benfro eleni’n helpu i benderfynu ai cynnig ymarferol yw hwn.

Gwneud mwy o’r hyn sydd gynnon ni: Os gallwn wella gwerth maethol rhai o’n cnydau protein a dyfir gartre megis pys a ffa, hwyrach y medrwn leihau maint y soia rydym yn ei brynu. Un ffordd o wneud hyn yw trwy symud cibau’r hadau sy’n lleihau ansawdd y porthiant ac sy’n cynnwys ffactorau gwrthfaethol sy’n amharu ar y treuliad. Mae’r adroddiad a’r fideo yma’n edrych ar y broses ddigibio a’r manteision maethol ac economaidd posibl.

Cydweithio: Mae a wnelo hyn â thyfu grawn o well ansawdd agosach i gartre. Mae ceirch noeth yn arbennig o addas ar gyfer deietau dofednod oherwydd maint uchel yr olew maent yn ei gynnwys a lefelau uwch yn ôl cyfran yr asidau amino sydd eu hangen fwya ar adar. Mae’r adroddiad hwn yn cadarnhau manteision maethol ceirch noeth o’u cymharu â mathau eraill o rawn, yn dogfennu profiad y cynhyrchwyr sy’n tyfu’r cnwd hwn, gan edrych ar sut gall cysylltiadau uniongyrchol rhwng cynhyrchwyr âr a dofednod yng Nghymru wella mynediad i gynhwysion o ansawdd da y gellir eu holrhain am brisiau teg.

Am BOBL
In partnership with
ADAS logo Aberystwyth University logo Organic Research Centre Elm Farm logo
Organic Centre Wales, IBERS, Gogerddan Campus
Aberystwyth University, Ceredigion, SY23 3EB
T:01970 622248   E: [email protected]
Funding bodies
logo of the European Agricultural Fund for Rural DevelopmentWelsh Assembly Government logo

Useful resources

Website design: mach2media and Technoleg Taliesin Cyf.