Non Gamstop CasinoGambling Sites Not On GamstopOnline Casino Not On GamstopBest Non Gamstop CasinosNew Betting Sites UK
Organic Centre Wales logo
  
Providing information on organic food and farming in Wales
Subscribe to our newsletter

Newyddion organig o Gymru a thu hwnt

mwy o newyddion…

Y Farchnad Organig – Godro

Adroddiad Ebrill OMSCo gan Huw Bowles
Mae’r tywydd yn dal i amharu ar gyflenwadau llaeth. Golygai’r gaeaf hir, oer a gwlyb fod silwair yn mynd yn brin gyda nifer o gynhyrchwyr a bu’n rhaid i rai droi at gael dirymiad er mwyn cael bwydo â silwair anorganig. O ganlyniad i hyn, mae OMSCo wedi penderfynu peidio â chasglu a marchnata’r cynnyrch hwn yn organig er mwyn diogelu dilysrwydd y brand organig. Gyda’r gwanwyn yn cyrraedd o’r diwedd, nid yw’r tywydd oer a sych presennol yn gwneud rhyw lawer i wella’r sefyllfa gyda’r tir yn cracio’n barod mewn rhai mannau, a dim arwydd o’r tywydd cynnes a gwlyb a fyddai’n helpu twf y glaswellt.

Mae’r gwerthiant yn parhau i ddal ei dir , ond bu’n fwy anodd dadansoddi data gwerthiant TNS yn fanwl oherwydd bod y ffigyrau organig hanesyddol wedi’u diwygio’n helaeth. Mae hyn yn golygu bod cymharu â gwerthiant yn y gorffennol yn anodd iawn. Profiad OMSCo yw bod y gwerthiant yn parhau i dyfu, er mai fesul ychydig iawn yn unig yw’r twf, a’r gobaith yw y bydd y marchnata parhaus a datblygiadau cynnyrch newydd yn y farchnad odro organig yn arwain at gynnydd yn y gwerthiant yn ystod 2010
http://www.omsco.co.uk

Gwerthiant llaeth organig yn dal ei dir
Yn ôl adroddiad marchnad y Soil Association 2010, plymiodd gwerthiant bwyd organig 12.9% yn y DU y llynedd, ond aeth llaeth organig yn groes i’r duedd hon gyda gwerthiant godro’n tyfu 1%. 2009 oedd y flwyddyn orau o ran gwerthiant llaeth organig a gofnodwyd erioed. www.soilassociation.org.uk

Stori gynt: Nick Rebbeck
Stori nesaf: Y Farchnad Organig – Grawn

Mwy o newyddion

In partnership with
ADAS logo Aberystwyth University logo Organic Research Centre Elm Farm logo
Organic Centre Wales, IBERS, Gogerddan Campus
Aberystwyth University, Ceredigion, SY23 3EB
T:01970 622248   E: [email protected]
Funding bodies
logo of the European Agricultural Fund for Rural DevelopmentWelsh Assembly Government logo

Useful resources

Website design: mach2media and Technoleg Taliesin Cyf.