Non Gamstop CasinoGambling Sites Not On GamstopOnline Casino Not On GamstopBest Non Gamstop CasinosNew Betting Sites UK
Organic Centre Wales logo
  
Providing information on organic food and farming in Wales
Subscribe to our newsletter

Newyddion organig o Gymru a thu hwnt

mwy o newyddion…

OCW yn symud

Ar ôl 10 mlynedd ar Gampws Llanbadarn ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae Canolfan Organig Cymru bellach wedi symud i Blas Gogerddan. Daw’r symud yn sgil uno’r Sefydliad Ymchwil Tir Glas a’r Amgylchedd (IGER) â dau o Adrannau’r Brifysgol: sef Sefydliad y Gwyddorau Gwledig, lle’r oedd Canolfan Organig Cymru wedi’i lleoli, a Sefydliad y Gwyddorau Biolegol. Mae’r timau canlynol hefyd wedi symud i Gogerddan: Gr^wp Ymchwil Organig, Gwell Cysylltiadau Busnes Organig, Cyswllt Ffermio a Newid Hinsawdd Cymru.

Cyn symud dywedodd Sue Fowler, Cyfarwyddwr Canolfan Organig Cymru: “Rydym yn falch o gael symud i Gogerddan oherwydd y byddwn yn rhannu swyddfeydd â’r Ganolfan Datblygu Tir Glas, y Gr^wp Ymchwil Organig, y rhaglen Cyswllt Ffermio a Newid Hinsawdd Cymru a’r Arolwg Busnes Fferm: golyga hyn y gallwn gyfathrebu’n well â’r timau hyn a gweithio gyda hwy i ddarparu gwell gwasanaeth a gwasanaeth mwy syml i’r sector organig yng Nghymru.”

Gwnaethom symud ddydd Mawrth 4 Mai ac er gwaethaf problemau technegol, yr un yw’r rhifau ffôn a’r manylion cyswllt eraill.

Rhagor o wybodaeth

Sue Fowler, Canolfan Organig Cymru, 01970 622248, [email protected].

Neil Pearson, Canolfan Organig Cymru: 01970 622248, [email protected]

Stori gynt: Y diweddaraf am daliadau cymorth, Ebrill 2010
Stori nesaf: Tir Organig – rhifyn yr haf 2010 allan

Mwy o newyddion

In partnership with
ADAS logo Aberystwyth University logo Organic Research Centre Elm Farm logo
Organic Centre Wales, IBERS, Gogerddan Campus
Aberystwyth University, Ceredigion, SY23 3EB
T:01970 622248   E: [email protected]
Funding bodies
logo of the European Agricultural Fund for Rural DevelopmentWelsh Assembly Government logo

Useful resources

Website design: mach2media and Technoleg Taliesin Cyf.