Non Gamstop CasinoGambling Sites Not On GamstopOnline Casino Not On GamstopBest Non Gamstop CasinosNew Betting Sites UK
Organic Centre Wales logo
  
Providing information on organic food and farming in Wales
Subscribe to our newsletter

Newyddion organig o Gymru a thu hwnt

mwy o newyddion…

Y Farchnad Organig – Llaeth

Adroddiad OMSCo ar gyfer Mai gan Huw Bowles
Mae’r tywydd yn parhau i gael effaith arwyddocaol ar gyflenwad llaeth organig yng Nghymru. Roedd cyflenwadau tebyg wrth debyg o’r 72 o gynhyrchwyr organig sy’n cyflenwi OMSCo yn Ebrill i lawr 1.7% o’i gymharu â blwyddyn yn ôl, tra ym mis Chwefror roedd yn 7.4% yn uwch, sy’n adlewyrchu cynnydd yn yr aelodau dros y cyfnod. Gall effaith y tywydd felly fod yn agos at ostyngiad o 10%. Ar yr ochr werthiant, mae’r sefyllfa yn parhau i fod yn araf gyda dim symudiadau gwirioneddol i fyny ac i lawr, ac mae hyn yn gysur i ryw raddau o ystyried y sefyllfa mewn sectorau eraill. Mae gan ymgyrch hysbysebu OMSCo ar y teledu gyfnod arall o brysurdeb dros yr wythnosau sy’n dod ac rydym yn parhau i fod yn hyderus ac wedi ymrwymo i dyfu’r farchnad drwy geisio denu nifer fawr o ddefnyddwyr organig posibl nad ydym yn eu cyrraedd ar hyn o bryd.
http://www.omsco.co.uk

Cynllun ‘pris teg’ M&S yn gwobrwyo ffermwyr llaeth am fuchesi iach
Mae ffermwyr i’w gwobrwyo am gynnal buchesi iach am y tro cyntaf o dan ddull talu newydd sy’n cynnig bonwsau am safonau uchel o les anifeiliaid. Fe ddatgelodd Marks and Spencer y cynllun ar ddiwedd Ebrill, a byddant yn cytuno i dalu “pris teg” i gynhyrchwyr sy’n adlewyrchu costau cynhyrchu yn ogystal â phris manwerthu llaeth, ac yn darparu anogaethau am wella amodau byw anifeiliaid.
Y Guardian (24 Ebrill)

Stori gynt: Gwobrau Bwyd a Diod Cymru y Gwir Flas 2010–2011
Stori nesaf: Y Farchnad Organig – Grawn

Mwy o newyddion

In partnership with
ADAS logo Aberystwyth University logo Organic Research Centre Elm Farm logo
Organic Centre Wales, IBERS, Gogerddan Campus
Aberystwyth University, Ceredigion, SY23 3EB
T:01970 622248   E: [email protected]
Funding bodies
logo of the European Agricultural Fund for Rural DevelopmentWelsh Assembly Government logo

Useful resources

Website design: mach2media and Technoleg Taliesin Cyf.