Cynhyrchwyr y Graig: Adroddiad Mai 2010 gan Nigel Elgar
Mae cig oen yn brin iawn. Mae cig oen organig y tymor newydd yn dod ymlaen mewn niferoedd bychain iawn am bremiwm o oddeutu 20c/kg (4%) dros hesbinod organig. Mae’r prisiau oddeutu 5% yn uwch na’r amser hyn y llynedd.
Bu prisiau cig eidion o dan ddeg mis ar hugain yn gostwng yn unol â phrisiau confensiynol ond mae maint yr elw rhwng confensiynol ac organig yn cael ei wasgu ac mae’n oddeutu 9% ar hyn o bryd. Gall Cynhyrchwyr y Graig werthu’r holl gig eidion a ddaeth ymlaen gan aelodau, heb ôl-groniad.
Mae’r galw am gig eidion dros ddeg mis ar hugain yn parhau’n gadarn fel ag y mae’r pris. Mae premiwm sefydlog o 50c dros y confensiynol yn annog mwy o gynhyrchwyr i werthu i’r farchnad organig. [email protected]
Arwerthiant Da Byw Organig
Ni chynhelir arwerthiant nesaf Welshpool Livestock Sales tan 6 Medi 2010. Bydd hwn ar gyfer gwartheg a defaid organig a rhai sy’n trawsnewid. Ffoniwch 01938 553438 am fanylion.
Mae Canolfan Da Byw Caerfyrddin yn cynnal arwethiannau organig rheolaidd ar ddydd Gwener cyntaf y mis. Ffoniwch 01267 236268 neu Huw Evans ar 07976 328177 am fanylion neu e-bostiwch [email protected]. Fe fydd McCartneys yn cynnal arwerthiant ar y cyd ar gyfer da byw organig neu rhai sy’n trawsnewid ar 28 Mai a 25 Mehefin ym marchnad Aberhonddu. Mae arwerthiannau organig rheolaidd yn cael eu cynnal ar ddydd Gwener olaf o’r mis. Ffoniwch 01874 622386 am fanylion.
Gwybodaeth am brisiau organig
Gellir cael mwy o wybodaeth am brisiau da byw ar
http://www.soilassociation.org/web
a http://www.organiccentrewales.org.uk