![]() Providing information on organic food and farming in Wales | ||
![]()
|
Newyddion organig o Gymru a thu hwntmwy o newyddion…Gardd farchnad organig ar gyfer CaerdyddMae’r Riverside Community Market Association yn gwerthu cyfranddaliadau yn ei brosiect newydd, sef llain o dir 10 erw y tu allan i Gaerdydd. Fe fydd yn cynhyrchu ystod eang o lysiau organig, gan ganolbwyntio ar gnydau o werth uwch fel saladau, a rhai ffrwythau. Bydd peth o’r cynnyrch hwn yn cael i brosesu a’i droi’n gawl, yn sawsiau ac yn gynhyrchion eraill. Bydd poli-dwneli yn caniatáu iddynt ymestyn y tymor tyfu a hefyd i gynhyrchu llysiau Asiaidd a Charibïaidd a fydd yn diwallu anghenion cymunedau ethnig amrywiol Caerdydd. Mae’r cynllun busnes yn dangos y bydd yr Ardd Farchnad yn dod yn fusnes sy’n ariannu ei hunan ac a berchnogir gan y gymuned gyda throsiant o oddeutu £170,000 ymhen pum mlynedd. I gael rhagor o fanylion gweler www.riversidemarketgarden.co.uk.
Mwy o newyddion | |
Organic Centre Wales, IBERS, Gogerddan Campus Aberystwyth University, Ceredigion, SY23 3EB T:01970 622248 E: [email protected] | ||