Non Gamstop CasinoGambling Sites Not On GamstopOnline Casino Not On GamstopBest Non Gamstop CasinosNew Betting Sites UK
Organic Centre Wales logo
  
Providing information on organic food and farming in Wales
Subscribe to our newsletter

Newyddion organig o Gymru a thu hwnt

mwy o newyddion…

Datblygu delwedd y sector organig yng Nghymru

Mae Canolfan Organig Cymru yn gwahodd cwmnïau cyfathrebu i gynnig am waith datblygu delwedd cynnyrch organig o Gymru. Bydd y gwaith yn gymorth i hyrwyddo cynnyrch organig Cymreig o fewn Cymru ac ar draws y DU am ddwy flynedd.

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013 a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Fe ddywedodd Dafydd Owen, Rheolwr Prosiect BOBL, “Mae hwn yn gyfle cyffrous i ddatblygu delwedd y sector organic yng Nghymru yn ystod y ddwy flynedd nesaf a thu hwnt. Mae manteision sustemau organig yn niferus ac yn gymhleth, ac yn anodd ei gyfleu mewn oes lle mae sylw pobl yn medru bod yn fyr iawn. Mae’n rhaid i ni gyfathrebu gyda chwsmeriaid a rhan-ddalwyr er mwyn iddynt ddeall pam for cefnogi cynhyrchwyr organig yn bwysig, a bydd y gwaith yma yn gymorth i ni gyflawni hwn.”

Fe ddywedodd hefyd: “Mae gan y sector organig y potensial i gadarnhau delwedd Cymru am fod yn wlad sy’n wyrdd ac yn cydweithio gyda’r amgylchedd a hefyd i gefnogi datblygiad economi a chynhyrchiant bwyd cynaliadwy. Oherwydd ymrwymiad cynhyrchwyr organig a buddsoddiad gan Lywodraeth Cynulliad Cymru mae wyth y cant o dir ffermio Cymru yn cael ei reoli’n organig yn barod. Mae’n rhaid i ni roi cymorth i gynhyrchwyr i dderbyn premiwm am eu cynnyrch sy’n adlewyrchu ei buddsoddiad nhw yn gynnyrch organig. Mae gan dir organig Cymru’r potensial i roi hwb i ddatblygu’r farchnad ar gyfer yr ystod gyfan o fwydydd rydym yn medru cynhyrchu.”

Mae manylion y gwaith wedi cael eu cyhoeddi ar wefan Sell2Wales. Medrwch ei weld ar: Sell2Wales

Stori gynt: Sioe Frenhinol Cymru
Stori nesaf: Digwyddiadau hyfforddi Glastir

Mwy o newyddion

In partnership with
ADAS logo Aberystwyth University logo Organic Research Centre Elm Farm logo
Organic Centre Wales, IBERS, Gogerddan Campus
Aberystwyth University, Ceredigion, SY23 3EB
T:01970 622248   E: [email protected]
Funding bodies
logo of the European Agricultural Fund for Rural DevelopmentWelsh Assembly Government logo

Useful resources

Website design: mach2media and Technoleg Taliesin Cyf.