Ymgynghoriad ar gyfer Rheoli Cydfodolaeth Cnydau GM
Fis diwethaf cyhoeddodd Elin Jones, y Gweinidog Materion Gwledig, yr ymatebion i’r ymgynghoriad ar gynigion Llywodraeth y Cynulliad i reoli cydfodolaeth cnydau GM, confensiynol ac organig yng Nghymru.
Yn unol â safbwynt y polisi a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y Cynulliad i fabwysiadu’r ymagwedd fwyaf caeth a rhagofalus tuag at dyfu cnydau GM, sy’n cyd-fynd â fframweithiau deddfwriaethol Prydain a’r UE; cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus llawn ar yr opsiynau ar gyfer trefn gydfodoli i Gymru. Byddai’r drefn hon yn anelu at leihau unrhyw bresenoldeb GM mewn cnydau di-GM, ac yn sicrhau bod presenoldeb ddamweiniol yn cael ei gadw o dan y trothwy labelu o 0.9%.
Roedd yr ymatebion wedi’u rhannu mwy neu lai rhwng y rhai hynny o sefydliadau, grwpiau ac unigolion sydd yn erbyn cnydau GM o ran eu diogelwch a’u heffaith bosib ar yr amgylchedd, iechyd dynol a’r economi, a’r rhai hynny nad ydynt yn rhannu’r pryderon hynny, ac sydd o’r farn y gellid tyfu cnydau GM yn ddiogel ac y gallent fod o fudd.
Datganiad i’r wasg
[link:
http://wales.gov.uk/consultations/environmentandcountryside/090630coexistenceofcrops/?lang=cy::Gweld y dogfennau]
Mae dau cynghorydd wedi gadael pwyllgor yr Asiantaeth Safonau Bwyd gan brotestio yn erbyn agwedd yr Asiantaeth tuag at GM. Manylion