Diben ymgynghoriad newydd ar Strategaeth Fwyd ar gyfer Cymru yw cael barn unigolion a chyrff am strategaeth bwyd arfaethedig Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer Cymru. Mae’r strategaeth yn agwedd trawsbynciol fel sylfaen ar gyfer gweithio’n integredig ar bolisi bwyd ar gyfer Cymru.
Ystyria hefyd agweddau trawsbynciol megis iechyd, y diwylliant bwyd ac addysg, diogelwch bwyd, cynaliadwyedd amgylcheddol a datblygu cymunedol fel sylfaen ar gyfer gweithio’n integredig ar bolisi bwyd ar gyfer Cymru. Bwriad gweithio mewn dull integredig hefyd yw datblygu cadernid y system fwyd, hybu economi fwyd gryfach yng Nghymru a, thrwy hynny, feithrin gallu busnesau bwyd i gystadlu’n effeithiol yma yng Nghymru a’r tu hwnt.
Dywedodd Sue Fowler, Cyfarwyddwraig Canolfan Organig Cymru: “Rydym yn croesawu’r strategaeth hon, a fydd yn codi proffil materion bwyd gan gydnabod mai cynaliadwyedd a lles fydd y nod yn y dyfodol. Mae’r Ganolfan yn gweithio gyda’r sector organig drwy’r brosiect Gwell Gysylltiadau Busnes Organig i godi ymwybyddiaeth a hybu gwybodaeth am fwyd a ffermio organig, a chynnal y gadwyn gyflenwi organig: bydd y strategaeth hon yn darparu fframwaith cryf a fydd yn ategu ein gwaith ni.”
Bydd Canolfan Organig Cymru yn ymateb i’r ymgynghoriad.