Non Gamstop CasinoGambling Sites Not On GamstopOnline Casino Not On GamstopBest Non Gamstop CasinosNew Betting Sites UK
Organic Centre Wales logo
  
Providing information on organic food and farming in Wales
Subscribe to our newsletter

Newyddion organig o Gymru a thu hwnt

mwy o newyddion…

Seminarau Asesu Risg ar gyfer tyfwyr cnydau bwytadwy

Mae’r Llywodraeth a manwerthwyr yn mynd ati’n barhaus i geisio lleihau’r risg o halogi cynnyrch ffres yn microbaidd. Mae’r HDC a’r ASB wedi dod ynghyd i ariannu pecyn o waith i helpu tyfwyr i gyflawni hyn, gan gynnwys taflen ffeithiau diweddar. Datblygwyd hefyd offer asesu risg ar gyfer y we sy’n mynd i’r afael â defnydd dŵr, mewnbynnau tail/tail wedi’i gompostio a hylendid gweithwyr.

Mae naw o seminarau hanner-diwrnod yn cael eu cynnal ledled y Deyrnas Unedig a fydd yn rhoi gwybod i dyfwyr am yr arferion gorau wrth asesu risg a chynnal profion microbaidd ar gnydau. Byddant hefyd yn cynnig hyfforddiant ymarferol ar sut i ddefnyddio’r adnoddau ar-lein. Dyma’r dyddiadau a’r lleoliadau sydd yng Nghymru neu’n cyfagos:

27 Hydref, Coleg Peshore, Avonbank, Peshore, Worcestershire, WR10 3JP
28 Hydref, Coleg Sir Gâr, Campws Rhydaman, Heol y Dyffryn, Rhydaman, Cymru, SA18 3TA
5 Tachwedd, Harper Adams University College, Newport, Shropshire, TF10 8NB

Mae 20 o leoedd ar gael ym mhob un o’r gweithdai, a fydd yn dechrau am 10.30am ac yn gorffen am 1.30pm (Belfast 11-2.30). Mae’n rhad ac am ddim i fynychu a bydd y lleoedd yn cael eu rhoi ar sail y cyntaf i’r felin. Os hoffech fynychu ffôniwch 02476 478661 o fewn 5 diwrnod gwaith i’r digwyddiad.

Stori gynt: Digwyddiad lloi godro – canslwyd
Stori nesaf: Gwobr Mary Langman

Mwy o newyddion

In partnership with
ADAS logo Aberystwyth University logo Organic Research Centre Elm Farm logo
Organic Centre Wales, IBERS, Gogerddan Campus
Aberystwyth University, Ceredigion, SY23 3EB
T:01970 622248   E: [email protected]
Funding bodies
logo of the European Agricultural Fund for Rural DevelopmentWelsh Assembly Government logo

Useful resources

Website design: mach2media and Technoleg Taliesin Cyf.