Daeth tua 35 o gyfranogwyr i CAT ar gyfer y gweithdy hwn a oedd wedi’i drefnu gan Ganolfan Organig Cymru a Chynghrair Tyfwyr Cymru. Roedd y gweithdy yn cydnabod bod y rhain yn amseroedd heriol iawn i lawer o fusnesau, ac roedd yn chwilio am strategaeth i gael y sector arddwriaethol organig yng Nghymru yn ôl ar seiliau fwy cadarn.
Roedd yn ddiwrnod o drafodaeth fywiog a chadarnhaol, ac roedd busnesau ar draws y gadwyn gyflenwi wedi’u cynrychioli. Erbyn diwedd y dydd, roedd rhai blaenoriaethau clir wedi dod i’r amlwg, yn cynnwys: Datblygu rhwydwaith o ganolfannau bwyd lleol yng Nghymru; datblygu marchnadoedd newydd yn cynnwys arlwyo/lletygarwch, marchnadoedd prosesu a siopau manwerthu lleol; darparu gwybodaeth am gyfleusterau prosesu a’r gallu ar gyfer cynnyrch garddwriaethol organig yng Nghymru; hyfforddiant ar werthu a chyflwyno, HACCP; rheoli a graddio ar ôl cynaeafu; hyrwyddo gwell dealltwriaeth o gynhyrchu organig ymysg defnyddwyr; cysylltiadau agosach gyda chymunedau lleol, yn cynnwys ysgolion, grwpiau cymunedol, tyfwyr amatur a phrosiectau CSA.
Ar hyn o bryd, mae Canolfan Organig Cymru yn trefnu’r syniadau hyn i gynllun trefnus, a bydd yn dechrau chwilio am atebion, gan weithio mewn partneriaeth gyda busnesau, prosiect Garddwriaeth Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru a sefydliadau eraill.
Dywedodd Tony Little, o Ganolfan Organig Cymru ac un o drefnwyr y gweithdy, ‘Roedd yn gyfarfod llwyddiannus iawn, a hoffwn ddiolch, nid yn unig i’r siaradwyr a fy nghyd-drefnwyr, ond hefyd y cyfranogwyr a oedd wedi brwydro trwy’r eira a’r rhew i gyrraedd a chyfranogi mor fywiog. Mae gennym rai blaenoriaethau clir i weithio arnynt, ond dw i’n gweld hwn fel y cam cyntaf mewn proses. Mae ffordd bell i fynd cyn y daw’r rhain yn realiti, ond os gall pawb fod y tu ôl i’r cynllun, mae hynny’n ddechrau da.’