Non Gamstop CasinoGambling Sites Not On GamstopOnline Casino Not On GamstopBest Non Gamstop CasinosNew Betting Sites UK
Organic Centre Wales logo
  
Providing information on organic food and farming in Wales
Subscribe to our newsletter

Newyddion organig o Gymru a thu hwnt

mwy o newyddion…

Strategaeth bwyd a diod newydd

Mae Elin Jones, y Gweinidog dros Faterion Gwledig, a Dr Haydn E. Edwards, cadeirydd y Bartneriaeth Cynghori ar Fwyd a Diod Llywodraeth Cynulliad Cymru, wedi gosod her ddeng mlynedd i ddiwydiant bwyd a diod Cymru wrth lansio’r strategaeth fwyd Bwyd i Gymru, Bwyd o Gymru 2010-2020 fis diwethaf.

Mae’r Strategaeth yn cymryd dull gweithredu eang tuag at y system fwyd, gan gysylltu â materion trawsbynciol fel y newid yn yr hinsawdd, iechyd a chynaliadwyedd. Dywedodd Elin Jones:

"Mae’r strategaeth yn adlewyrchu newid sylweddol uchelgeisiol drwy roi mwy o gydnabyddiaeth i’r system fwyd ehangach. Mae’n gosod cyfeiriad radical ar gyfer diwydiant a’r Llywodraeth, ac yn wynebu’r her o sicrhau bod pobl yn gallu cael y bwyd fforddiadwy ac iach sydd ei angen arnynt, gan sicrhau ar yr un pryd nad yw hynny’n cael effaith niweidiol ar yr amgylchedd naturiol."

Mae argymhellion y Strategaeth yn cwmpasu iechyd cyhoeddus, newid yn yr hinsawd, adfywio, allgau cymdeithasol, tlodi ac addysg.

Llawrlwythwch y Strategaeth fan hyn

Stori gynt: Cyrsiau ‘Permaculture’
Stori nesaf: Newydd-ddyfodiaid: dyddiad cau wedi’i estyn

Mwy o newyddion

In partnership with
ADAS logo Aberystwyth University logo Organic Research Centre Elm Farm logo
Organic Centre Wales, IBERS, Gogerddan Campus
Aberystwyth University, Ceredigion, SY23 3EB
T:01970 622248   E: [email protected]
Funding bodies
logo of the European Agricultural Fund for Rural DevelopmentWelsh Assembly Government logo

Useful resources

Website design: mach2media and Technoleg Taliesin Cyf.