![]() Providing information on organic food and farming in Wales | ||
![]()
|
Newyddion organig o Gymru a thu hwntmwy o newyddion…Manteisio i’r eithaf ar gompostMae Canolfan Organig Cymru yn cynnal cyfres o weithdai ar fanteision defnyddio compost, a hynny fel rhan o Raglen Datblygu Organig Farming Connect. Mae cynnal ffrwythlondeb pridd yn y tymor hir yn frwydr barhaus i ffermwyr organig ac, yn wir, i ffermwyr confensiynol. Gall defnyddio compost helpu i ddatrys y broblem drwy ddarparu maetholion, hybu gweithgaredd biolegol, gwella strwythur y pridd ac atal afiechydon a ddygir gan bridd. Yn ogystal, ceir cyfleoedd i ffermwyr droi eu llaw at gompostio masnachol a fyddai, wrth gwrs, yn dod â manteision ariannol yn ei sgil. Yn ogystal ag amlygu rhai o’r manteision, bydd y gweithdai hefyd yn mynd i’r afael â rhai o’r rhwystrau – real a chanfyddedig – i’r defnydd o gompost ar raddfa eang ar ffermydd. Mwy o newyddion | |
Organic Centre Wales, IBERS, Gogerddan Campus Aberystwyth University, Ceredigion, SY23 3EB T:01970 622248 E: [email protected] | ||