Non Gamstop CasinoGambling Sites Not On GamstopOnline Casino Not On GamstopBest Non Gamstop CasinosNew Betting Sites UK
Organic Centre Wales logo
  
Providing information on organic food and farming in Wales
Subscribe to our newsletter

Newyddion organig o Gymru a thu hwnt

mwy o newyddion…

Addysg trawsnewidiol a bwyd

Mae papur a gynhyrchwyd gan awduron o Ganolfan Organig Cymru, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Glyndŵr a’r Ganolfan Technoleg Amgen yn trafod beth sy’n rhaid i bobl ei ddysgu am systemau bwyd cynaliadwy, sut y maent yn ei ddysgu, a sut y gall yr addysg hon arwain at newid gwirioneddol mewn cymdeithas.

Gan dynnu ar brofiad ymarferol o brosiectau Cymreig, mae’r papur yn disgrifio sut y mae dealltwriaeth a newid ymddygiadol yn atgyfnerthu ei gilydd, a sut y maent yn gweithio ar sawl level, yn ôl anghenion dysgwyr. Ei fwriad yw ysgogi trafodaeth bellach, ac y mae’r Gweithgor Bwyd y bwriadu cynnal digwyddiadau lle gall pobl sy’n edrych ar y gadwyn fwyd o safbwyntiau gwahanol iawn – ffermwyr, cyfanwerthwyr, arlwywyr, cadwraethwyr, llywodraeth leol – ddarganfod tir cyffredin ac archwilio’r gwahaniaethau rhyngddynt, gan yrru’r proses dysgu yn ei blaen ymhellach.

‘Transformative education and food: thoughts from Wales’ yw cyhoeddiad cyntaf Gweithgor Bwyd Canolfan Arbenigedd Rhanbarthol (CAR) Cymru mewn Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang (ADCDF), a gydnabyddwyd gan Brifysgol y Cenhedloedd Unedig yn 2010.

Rhagor o wybodaeth am y rhwydwaith byd-eang o Ganolfannau Arbenigedd Rhanbarthol

Stori gynt: Cyfrifiad Materion Bwyd 2011
Stori nesaf: Cymunedau Bwyd Cynaliadwy – Caerdydd

Mwy o newyddion

In partnership with
ADAS logo Aberystwyth University logo Organic Research Centre Elm Farm logo
Organic Centre Wales, IBERS, Gogerddan Campus
Aberystwyth University, Ceredigion, SY23 3EB
T:01970 622248   E: [email protected]
Funding bodies
logo of the European Agricultural Fund for Rural DevelopmentWelsh Assembly Government logo

Useful resources

Website design: mach2media and Technoleg Taliesin Cyf.