Non Gamstop CasinoGambling Sites Not On GamstopOnline Casino Not On GamstopBest Non Gamstop CasinosNew Betting Sites UK
Organic Centre Wales logo
  
Providing information on organic food and farming in Wales
Subscribe to our newsletter

Newyddion organig o Gymru a thu hwnt

mwy o newyddion…

Ennill cynhyrchion organig sy’n werth dros £100!! Sut gall y sector organig ddod yn wirioneddol gynaliadwy?

Mae creu cynhyrchion organig a’u cludo at y cwsmer terfynol yn y ffordd fwyaf effeithlon a chynaliadwy’n hanfodol er mwyn i’r sector organig symud yn ei flaen. Drwy ddod yn symlach, yn fwy moesegol, canolbwyntio ar y lleol, gyda llai o effaith – yn wirioneddol gynaliadwy – gall y sector organig ddod yn fwy llwyddiannus o lawer. Mae mewn sefyllfa unigryw i gymryd y cam hwn a manteisio ar ei etifeddiaeth.

Yn eich barn chi, beth yw’r peth pwysicaf y dylai’r diwydiant ei wneud i ddod yn wirioneddol gynaliadwy?

Anfonwch eich syniad i email:[email protected]::[email protected]] a bydd yr awgrym gorau (ym marn panel o arbenigwyr) yn ennill gwobr o gynnyrch organig sy’n werth dros £100.

Arweinydd cynaliadwyedd ym maes rhagoriaeth y gadwyn gyflenwi yw Weir-tscs ers dros 20 mlynedd, ac mae wedi gweithio’n llwyddiannus â busnesau o bob maint i leihau costau, risgiau ac effaith amgylcheddol a hefyd gwella enw da busnesau.

Trwy’r prosiect hwn defnyddir offer ac arbenigedd i archwilio cadwyni cyflenwi a datblygu gwir gyfleoedd i wella a Chynlluniau Gweithredu Cynaliadwyedd ymarferol ar gyfer busnesau. Mae’r gwaith yn edrych ar y broses gyfan: dod o hyd i ddeunyddiau crai a’u prynu; prosesu, deunydd pacio a storio; dosbarthu, gwerthu a defnyddio’r cynhyrchion – hyd yn oed drwodd i unrhyw wastraff ar ôl iddynt gael eu defnyddio.

Mae cynllun gweithredu cynaliadwyedd yn hybu mwy o broffidioldeb a pherfformiad amgylcheddol rhagorol ar draws y cadwyni cyflenwi. Bydd yr hyn a ddysgir o’r gwaith gyda busnesau unigol hefyd yn cael ei goladu mewn astudiaethau achos a chanllawiau i alluogi’r holl sector organig yng Nghymru i elwa.

Stori gynt: Diweddariad ar Glastir a ffermio organig
Stori nesaf: Dilynwch Ganolfan Organig Cymru ar Weplyfr a Thrydar

Mwy o newyddion

In partnership with
ADAS logo Aberystwyth University logo Organic Research Centre Elm Farm logo
Organic Centre Wales, IBERS, Gogerddan Campus
Aberystwyth University, Ceredigion, SY23 3EB
T:01970 622248   E: [email protected]
Funding bodies
logo of the European Agricultural Fund for Rural DevelopmentWelsh Assembly Government logo

Useful resources

Website design: mach2media and Technoleg Taliesin Cyf.