Non Gamstop CasinoGambling Sites Not On GamstopOnline Casino Not On GamstopBest Non Gamstop CasinosNew Betting Sites UK
Organic Centre Wales logo
  
Providing information on organic food and farming in Wales
Subscribe to our newsletter

Newyddion organig o Gymru a thu hwnt

mwy o newyddion…

Mae Cymru’n arwain y DU wrth i’w thir organig gynyddu 34%

Mae mwy o dir wedi’i droi’n organig yng Nghymru nag yn unrhyw un o wledydd eraill y DU yn ôl adroddiad cenedlaethol. Mae adroddiad diweddar gan DEFRA yn dangos mai Cymru sy’n arwain y DU wrth i dir organig y wlad gynyddu 34% o’i gymharu â 2009. Mae dros 8% o dir amaethyddol Cymru bellach yn organig, bron dwywaith cymaint â Lloegr a’r cyfartaledd ar draws y DU.
Cyhoeddir yr adroddiad ar yr un pryd â’r newyddion bod Rachel’s sydd â’i gartref yn Aberystwyth wedi gweld twf trawiadol eleni. Mae Rachel’s wedi llwyddo i gynyddu ei gyfran o’r iogyrtiau a’r pwdinau organig wedi’u hoeri yn y DU o 21.9% ddwy flynedd yn ôl i 30% yn 2010, gan arwain at alwad am fwy o ffermwyr llaeth organig i ddiwallu’r twf yn y galw.
Oherwydd cynnydd sydyn yng ngalw defnyddwyr am laeth organig, mae’r grŵp llaeth organig Cymreig, Calon Wen hefyd yn galw am fwy o ffermwyr llaeth organig ledled Cymru i ateb y galw newydd.
Mae Cynhyrchwyr y Graig, grŵp marchnata da byw cydweithredol annibynnol, sydd â channoedd o aelodau sy’n ffermio ar draws Cymru a Lloegr, wedi dweud gyda’r cynnydd yn y galw, eu bod yn gwerthu da byw eu haelodau am rai o’r prisiau gorau yn eu hanes a heb unrhyw oedi. Gyda thwf cyfartalog gwerthiant cig eidion organig i fyny 30 y cant dros y 12 mis diwethaf, nid oes fawr o arwydd y bydd y galw cryf yn gostwng ar hyn o bryd.
Yn ôl Sue Fowler, Cyfarwyddwr Canolfan Organig Cymru: “Mae’n galonogol gweld mai Cymru yw arweinydd y DU o hyd ar gyfer nwyddau organig.
“Mae’r twf yn y galw a’r gwerthiant a welir yn Calon Wen, Rachel’s a Chynhyrchwyr y Graig yn gadarnhaol iawn ac maent yn enghreifftiau gwych o sut y mae ymdrechion cydweithredol yn elfen bwysig o lwyddiant yn y sector organig.”
Nid yw adroddiad DEFRA yn dangos tystiolaeth bod ffermwyr yn cefnu ar arferion organig, ond bod cyfradd y niferoedd sy’n troi’n organig yn arafu. Dywedodd dros 80% o ffermwyr Cymru a ymatebodd i Arolwg Cynhyrchwyr 2010 Canolfan Organig Cymru eu bod yn bwriadu cynnal neu ehangu eu system organig bresennol, gyda dim ond 3% yn bwriadu symud yn ôl at ffermio confensiynol.
Ychwanegodd Sue Fowler, Cyfarwyddwr Canolfan Organig Cymru: “Yng Nghymru, gallai’r arafu o ran ffermwyr yn troi’n organig fod yn gysylltiedig ag ansicrwydd ynghylch cymorth gan y Llywodraeth drwy Glastir.”
“Mae’n addawol, mewn datganiad diweddar am Glastir, i’r Gweinidog ymrwymo i ‘sicrhau sector organig cynaliadwy yng Nghymru’. Mae hyn yn debygol o ddod â sicrwydd i ffermwyr sydd eisoes yn organig yn ogystal â’r rhai sy’n ystyried troi at ddulliau organig.”
Credir bod y brif her i’r rheini sy’n marchnata cynhyrchion organig yn ymwneud â defnyddwyr nad ydynt yn deall sut y mae bwyd yn cael ei gynhyrchu ac felly nid ydynt yn gwybod pam neu sut y gallai bwyd organig fod yn well. I fynd i’r afael â’r mater hwn, mae Canolfan Organig Cymru’n rhedeg prosiect tair blynedd a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig i helpu i esbonio i ddefnyddwyr beth yw ystyr y label ‘organig’, ac i annog cefnogaeth i ffermwyr organig a chadwyn gyflenwi bwyd organig.
Mae cefnogaeth defnyddwyr yn hanfodol er mwyn parhau i arwain y ffordd ym maes cynhyrchu bwyd organig. Mae Mis Medi Organig yn prysur agosáu, gan nodi’r mis i ddathlu popeth organig. Bu Pythefnos Organig y llynedd yn cynyddu gwerthiant bwyd a diod organig 15.5 y cant.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Lara Hallett ar MGB PR ar 01792 460200

Nodiadau i olygyddion
1. Yr adnodd cenedlaethol yw Canolfan Organig Cymru ar gyfer defnyddwyr, ffermwyr a gwneuthurwyr polisi sy’n ymrwymedig i fwyd a ffermio mwy cynaliadwy yng Nghymru. Wedi’i lleoli ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn cael ei rheoli gan bartneriaeth sy’n cynnwys ADAS, Canolfan Ymchwil Organig Elm Farm, a Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth. Gweler www.organiccentrewales.org.uk.

2. Un o brosiectau Canolfan Organig Cymru yw BOBL a ariennir o dan Gynllun Effeithlonrwydd y Gadwyn Gyflenwi yn rhan o Gynllun Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru. Bwriad y prosiect yw cynorthwyo’r cynhyrchydd cynradd yng Nghymru a meithrin y farchnad ar gyfer cynnyrch organig Cymru mewn ffordd gynaliadwy. Mae’r prosiect yn datblygu marchnadoedd hen a newydd i gynnyrch organig wrth sbarduno ar yr un pryd arloesedd ar bob lefel yn y gadwyn gyflenwi. Y nod cyffredinol yw cefnogi sector organig ffyniannus yng Nghymru fel y gellir llwyr wireddu manteision y buddsoddi gan Lywodraeth Cymru yn y Cynllun Ffermio Organig i greu buddion amaeth-amgylcheddol ac yng Nghynllun Gweithredu Organig Cymru i gefnogi datblygu gwledig a chynhyrchu bwyd cynaliadwy.

3. Cynllun integredig Cymru gyfan yw Cyswllt Ffermio ar gyfer busnesau fferm a choedwigaeth yng Nghymru. Fe’i hariennir drwy Gynllun Datblygu Gwledig 2007-2013, sy’n cael ei ariannu yn ei dro gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Mae’r cynllun yn darparu ystod hygyrch a hyblyg o wasanaethau gan gynnwys cymorth un i un, gwybodaeth, arbenigedd, hyfforddiant a gwasanaethau cynghorol sy’n cael eu teilwra’n ôl angen yr unigolyn. Mae llawer o wasanaethau’n cael eu hariannu’n gyflawn ac mae eraill yn derbyn cymhorthdal o 80% i bob ffermwr cymwys. Mae pob gwasanaeth yn helpu ffermwyr i redeg eu busnesau’n fwy effeithlon. Am wybodaeth bellach ffoniwch Ganolfan Gwasanaethau Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813.

4. Ariennir y Gwasanaeth Gwybodaeth am Droi’n Organig gan Lywodraeth Cymru i ddarparu gwybodaeth i gynhyrchwyr, i’w galluogi i wneud penderfyniad deallus ynglŷn â newid i reoli ac ardystio organig – ceir llinell gymorth, pecyn gwybodaeth a hyd at dri ymweliad di-dâl â fferm. Cysylltwch â llinell gymorth Canolfan Organig Cymru ar: 01970 622100.

Stori gynt: Taith Astudio Amaethyddiaeth a Gefnogir gan y Gymuned (AGG)
Stori nesaf: Gwyliau bwyd Cymru 2011

Mwy o newyddion

In partnership with
ADAS logo Aberystwyth University logo Organic Research Centre Elm Farm logo
Organic Centre Wales, IBERS, Gogerddan Campus
Aberystwyth University, Ceredigion, SY23 3EB
T:01970 622248   E: [email protected]
Funding bodies
logo of the European Agricultural Fund for Rural DevelopmentWelsh Assembly Government logo

Useful resources

Website design: mach2media and Technoleg Taliesin Cyf.