Fis diwethaf, lansiodd y Soil Association ei Rwydwaith Dinasoedd Cynaliadwy a fydd yn helpu dinasoedd ledled y DU i ddatblygu mentrau bwyd cynaliadwy. Dyma ddywed yr Athro Kevin Morgan o Brifysgol Caerdydd, sy’n cefnogi’r fenter:
“Ar ôl bod ymhell y tu ôl i lefydd fel Gogledd America ac Ewrop, ceir yn y DU, erbyn hyn, ddinasoedd sydd ar flaen y gad o ran eu rhaglenni bwyd arloesol. Er bod y rhaglenni hyn yn canolbwyntio ar bethau gwahanol yn unol â blaenoriaethau ac anghenion lleol, y mae rhai themâu cyffredin yn brigo i’r wyneb – a hynny’n ymwneud â’r angen i ddwyn y cyhoedd i mewn i bethau; â phŵer partneriaethau traws-sector sy’n wirioneddol gydweithrediadol; ac â’r angen i gydnabod y cyswllt sylfaenol rhwng iechyd a chynaliadwyedd.”
Yng Nghaerdydd, mae prosiect BOBL yn cefnogi Siartr Fwyd Caerdydd a fydd yn caniatáu i bobl leol gymryd rhan. I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â
.
Sustainable Food Cities
Mae’r Soil Association wedi gosod allan ei agenda ar gyfer y ddeng mlynedd nesaf yn The Road to 2020.