Non Gamstop CasinoGambling Sites Not On GamstopOnline Casino Not On GamstopBest Non Gamstop CasinosNew Betting Sites UK
Organic Centre Wales logo
  
Providing information on organic food and farming in Wales
Subscribe to our newsletter

Newyddion organig o Gymru a thu hwnt

mwy o newyddion…

Rhanddirymiadau dofednod

Mae Comisiwn yr UE wedi methu â chytuno ynglŷn â diwedd y rhanddirymiadau sydd a) yn caniatáu i hyd at 5% o gynhwysion anorganig gael eu defnyddio ym mhorthiant dofednod organig a b) caniatáu defnyddio cywennod rhannol organig lle na ellir cael hyd i adar organig. Roedd y ddau randdirymiad i fod i ddod i ben 31 Rhagfyr 2011. Yn absenoldeb penderfyniad clir, mae DEFRA wedi darparu’r wybodaeth ganlynol:

“Gan nad yw’n bosibl cyhoeddi’r testun newydd cyn y dyddiad cau 31 Rhagfyr, y bwriad fydd i’r rheoliad sy’n ei newid gael effaith ôl-weithredol. Bydd hyn yn sicrhau bod yr anifeiliaid a’u cynnyrch yn parhau i gael eu disgrifio’n gyfreithiol gywir fel rhai organig yn ystod y cyfnod rhwng 01 Ionawr hyd at y dyddiad y daw’r rheoliad i rym.

Mae’r Comisiwn wedi egluro nad yw’n bwriadu cyflwyno gofynion a fyddai’n newid y rheolau porthiant yn syth ac y bydd mater y cywennod yn cael ei ohirio ar gyfer trafodaeth er mwyn caniatáu ystyriaeth briodol. Felly, bydd yn bosibl parhau i weithredu, gan na fyddai’r Comisiwn yn disgwyl gweld camau’n cael eu cymryd yn erbyn gweithredwyr didwyll.

Yn ogystal â’r uchod, mae’r Comisiwn wedi dweud y bydd yn rhoi gwybodaeth ar ei wefan sy’n dangos mai rheol ôl-weithredol sydd yn yr arfaeth a chyn gynted ag y bydd drafft y testun arfaethedig ar gael bydd yn rhoi gwybod i bawb. Mae’r testun hwn yn debygol o gynnwys cynigion sy’n gofyn y ceir hyd i ganran isel o borthiant monogastrig o’r rhanbarth er mwyn caniatáu lefel gychwynnol o’r 5% mewnbynnau anorganig cyfredol (proteinau cyfyngedig posibl) gyda’r canran sy’n seiliedig ar ffigwr cyfanswm y porthiant a bydd hyn yn gostwng yn y lle cyntaf i 3% ar ôl blwyddyn, ac yna i >1% yn barhaus er mwyn caniatáu mân gynwysiannau. Mae’r gallu i ddefnyddio cywennod anorganig yn debygol o barhau am hyd at ddwy flynedd arall.

Yn ôl Tony Little, Canolfan Organig Cymru “Mae hyn yn golygu yn y bôn fod pethau’n mynd rhagddynt fel arfer nes y byddwch yn clywed fel arall. Dw i’n siomedig, yn bennaf ar ran y cynhyrchwyr hynny o Gymru a fu’n hollol ddidwyll wrth wneud y newidiadau i’w systemau. Roedd rhai o’r newidiadau hyn yn golygu cryn fuddsoddiad, dim ond i ganfod bod pyst y gôl wedi’u symud ar yr unfed awr ar ddeg.”

Stori gynt: Cymorth organig yn y Cynllun Datblygu Gwledig cyfredol
Stori nesaf: Canolfan Organig Cymru yn y Ffair Aeaf

Mwy o newyddion

In partnership with
ADAS logo Aberystwyth University logo Organic Research Centre Elm Farm logo
Organic Centre Wales, IBERS, Gogerddan Campus
Aberystwyth University, Ceredigion, SY23 3EB
T:01970 622248   E: [email protected]
Funding bodies
logo of the European Agricultural Fund for Rural DevelopmentWelsh Assembly Government logo

Useful resources

Website design: mach2media and Technoleg Taliesin Cyf.