Roedd dau fusnes organig ymhlith enillwyr Gwobrau Dysgwr ar Dir y Flwyddyn 2011.
Enillodd Jack Bottoms wobr Dysgwr y Flwyddyn ym maes Rheoli Tir a Chynhyrchu. Teulu Jack sydd biau Cwmni Coed Esgair ger Machynlleth, un o goedwigoedd ardystiedig cyntaf y DU. Hon oedd un o Ffermydd Arddangos Cyswllt Ffermio am sawl blwyddyn a fu’n edrych ar y posibiliadau o ran cynhyrchu moch a dofednod mewn coetir.
Enwebwyd Rebecca O’Dwyer o Oaklands Organics fel enillydd Dysgwr y Flwyddyn. Lleolir Oaklands Organics ger Tresimwn, Caerdydd ac mae’n cynhyrchu amrywiaeth o gigoedd o safon uchel sy’n cael eu gwerthu’n uniongyrchol ac mae wedi ennill llawer iawn o wobrau Gwir Flas a Great Taste.
Yn ôl Tony Littile, a fu’n mynychu’r seremoni wobrwyo yn y Ffair Aeaf, “Mae’n wych gweld busnesau organig yn gwneud cystal gyda’r gwobrau hyn – mae’n arwydd o sector sy’n datblygu ac yn arloesi o hyd. Ar ran Canolfan Organig Cymru, hoffwn longyfarch Jack a Rebecca ar eu llwyddiant.”
Am fwy o wybodaeth am y gwobrau ac enillwyr eraill, defynddwch y linc isod.
darllen mwy