Mae ADAS a Garddwriaeth Cymru yn gwahodd i gynhyrchwyr garddwriaethol gymryd rhan mewn arolwg o arddwriaeth yng Nghymru. I gwblhau’r arolwg, dilynwch y ddolen: Arolwg garddwriaeth.
Ni ddylai gymryd mwy na 10-15 munud.
Mae garddwriaeth yn sector amrywiol a gasgaredig yng Nghymru ac mae yna ddiffyg garw o wybodaeth fanwl. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd i ddatblygu marchnadoedd, neu gynrychioli anghenion y diwydiant neu sicrhau fod garddwriaeth yn gwbl gynwysedig mewn rhaglenni cefnogi datblygu gwledig a gwneud penderfyniadau. Felly, fel rhan o’r gwaith i wella gwybodaeth am y gadwyn gyflenwi a’r farchnad, mae ADAS, ar ran Garddwriaeth Cymru, yn hel gwybodaeth am gynhyrchwyr a phroseswyr yn niwydiant garddwriaethol Cymru, gan gynnwys y sector addurniadol.
Rydym yn gwerthfawrogi eich cymorth, ac oes bydd angen mwy o wybodaeth am yr arolwg neu am brosiect Garddwriaeth Cymru arnoch, cofiwch gysylltu â ni:
, Cyfarwyddwr Garddwriaeth Cymru
, Rheolwr Garddwriaeth Cymru
, Uwch Cynghorydd ADAS Cymru