Non Gamstop CasinoGambling Sites Not On GamstopOnline Casino Not On GamstopBest Non Gamstop CasinosNew Betting Sites UK
Organic Centre Wales logo
  
Providing information on organic food and farming in Wales
Subscribe to our newsletter

Newyddion organig o Gymru a thu hwnt

mwy o newyddion…

Y Ganolfan yn colli cyllid craidd

Daeth cyllid Llywodraeth Cymru i’r Gwasanaeth Gwybodaeth am Droi’n Organig (OCIS) i ben 31 Rhagfyr 2011. Mae hyn yn golygu nad oes bellach wasanaeth di-dâl arbennig i helpu ffermwyr sy’n ystyried ardystio’n organig. Nid yw’n glir os bydd y gwasanaeth yn cael ei ailagor.

Y llynedd hefyd gwelwyd diwedd y contract craidd a oedd wedi galluogi Canolfan Organig Cymru i ddarparu gwasanaethau cydgysylltu a gwybodaeth i ffermwyr, llunwyr polisi a’r cyhoedd ynglŷn â materion organig er 2000. Daeth hyn yn sgil dwy flynedd o ansicrwydd pryd yr oedd y Ganolfan yn gweithredu ar estyniadau tymor byr.

Yn fwy optimistaidd, cytunwyd bellach y bydd y prosiect Gwell Cysylltiadau Busnes Organig (BOBL) yn rhedeg tan ddiwedd 2013, gan helpu busnesau yn y sector organig yng Nghymru i wella eu proffidioldeb, eu cynaliadwyedd a’u perfformiad amgylcheddol. Mae hyn yn golygu y bydd y Ganolfan yn parhau i gyflenwi’r prosiect BOBL er bod pryderon y bydd y lleihad yn y cymorth i’r sector a lefelau isel cyllid i’r Cynllun Troi at Ffermio Organig (OFCS) yn tanseilio’r prosiect trwy leihau nifer y ffermwyr sy’n bwydo i’r gadwyn gyflenwi.

Ar hyn o bryd nid ydym yn gwybod pa wasanaethau y bydd y Ganolfan yn gallu eu cynnal ond yn sicr bydd yn rhaid i ni dorri ein staff craidd a’n gwasanaethau. Pryder mawr yw bod yr adeg hon mor dyngedfennol i gyfrannu i’r trafodaethau ar ddiwygio PAC. Mae’r UE wedi cydnabod y cyfleoedd a ddarperir gan ffermio organig yn ei gynigion cychwynnol, ond ni fydd y Ganolfan yn gallu cyfrannu i drafodaethau a helpu Cymru i gynnal ei rôl arweiniol yn y DU.

Yn y tymor byr, bydd y Ganolfan yn cynnal yr e-fwletin hwn ar sail ad-hoc. Bydd yr e-fwletin marchnata hefyd yn cael ei gadw gan fod hwnnw ar hyn o bryd yn cael ei gynnal trwy’r prosiect BOBL. Fodd bynnag, mae’r gweithgareddau sydd bellach mewn perygl yn cynnwys y wefan, gwaith ar addysg ac ymweliadau ysgolion â ffermydd, dadansoddi polisi a chyngor i Lywodraeth Cymru, cyfrannu i ddatblygu safonau organig, cyfranogi mewn grwpiau cynghori Llywodraeth Cymru ac yn y DU, casglu a lledaenu data ac ystadegau organig, llinell cymorth technegol, darparu ardaloedd organig a gwybodaeth mewn digwyddiadau amaethyddol yng Nghymru ac ymateb i ymholiadau o gartref a thramor.

Os hoffech wybodaeth bellach a fyddech cystal â chysylltu â’r Cyfardwyddwr, , on 01970 621627.

Stori gynt: Marchnad ffermwyr ysgol Ynys Mo^n
Stori nesaf: Dyheu am gadwyn cyflenwi gynaliadwy

Mwy o newyddion

In partnership with
ADAS logo Aberystwyth University logo Organic Research Centre Elm Farm logo
Organic Centre Wales, IBERS, Gogerddan Campus
Aberystwyth University, Ceredigion, SY23 3EB
T:01970 622248   E: [email protected]
Funding bodies
logo of the European Agricultural Fund for Rural DevelopmentWelsh Assembly Government logo

Useful resources

Website design: mach2media and Technoleg Taliesin Cyf.