Non Gamstop CasinoGambling Sites Not On GamstopOnline Casino Not On GamstopBest Non Gamstop CasinosNew Betting Sites UK
Organic Centre Wales logo
  
Providing information on organic food and farming in Wales
Subscribe to our newsletter

Newyddion organig o Gymru a thu hwnt

mwy o newyddion…

Ymgyrch Newydd yn Annog Siopwyr i Ddewis Cynnyrch Organig

Bydd ymgyrch farchnata newydd, sy’n cael ei lansio yng Nghymru heddiw (11 Mehefin), yn ceisio darbwyllo poblogaeth Cymru beth yw manteision dewis cynnyrch organig.

Yr ymgyrch, a reolir gan Ganolfan Organig Cymru, fydd y gyntaf o’i math yng Nghymru a bydd yn cefnogi ymdrechion ffermwyr a chynhyrchwyr organig niferus y genedl sydd wedi helpu i sicrhau bod Cymru dipyn mwy na’i maint o ran cynhyrchu organig. Mae ffermwyr Cymru’n parhau i neilltuo tua 8% o holl dir amaethyddol y wlad i gynhyrchu organig – dwywaith cymaint â gweddill y DU.

Mae’r adroddiad diweddaraf ar y Farchnad Organig a gyhoeddir yn flynyddol gan y Soil Association, yn dangos bod gwerthiant cynnyrch organig y DU yn cymryd yn hirach i ymadfer yn dilyn y dirwasgiad a’i fod yn llusgo y tu ôl i wledydd eraill Ewrop, yn ogystal â marchnadoedd mawr megis UDA a Tsieina. Mae adroddiad Cymdeithas y Pridd yn nodi “diffyg wrth gyfleu rhesymau dros brynu’n organig” fel un o’r prif rwystrau i dwf, ynghyd â gostyngiad cyson yn y gwerthiant mewn archfarchnadoedd.

Bydd yr ymgyrch yn cynnwys posteri y tu allan i archfarchnadoedd ar draws Cymru, hysbysebion ar-lein ac ar y radio a rhaglen addysg i ysgolion, yn ogystal ag ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus ac yn y cyfryngau cymdeithasol dros 12 mis i annog pobl i ymweld â thudalen Facebook Canolfan Organig Cymru, i gael syniadau am ryseitiau organig, cystadlaethau a gwybodaeth am fanteision cynhyrchu cynaliadwy. Mae’r posteri’n bwrw golwg ffraeth ar y gwahaniaethau rhwng cynhyrchion organig ac anorganig, gan arddangos buddion organig trwy ddefnyddio cynhyrchion adnabyddus o Gymru.

Yn ôl Dafydd Owen o Canolfan Organig Cymru. “Mae enw da a phoblogrwydd cynnyrch Cymreig yn parhau i dyfu yma yng Nghymru a thu hwnt, a bydd llawer o’n prif gynhyrchwyr yn defnyddio dulliau cynhyrchu organig. Bydd ein hymgyrchu’n dathlu hyn gan ddangos i bobl ei bod yn bosibl prynu bwyd iach a maethlon sy’n cael ei gynhyrchu’n lleol, gyda llai o effaith ar yr amgylchedd ac am brisiau sy’n is o lawer nag roedden nhw’n eu disgwyl.”

Stori gynt: Prosiect bwyd lleol Wrexham yn mynd o nerth i nerth
Stori nesaf: Ymunwch a Siarter Bwyd Gwynedd

Mwy o newyddion

In partnership with
ADAS logo Aberystwyth University logo Organic Research Centre Elm Farm logo
Organic Centre Wales, IBERS, Gogerddan Campus
Aberystwyth University, Ceredigion, SY23 3EB
T:01970 622248   E: [email protected]
Funding bodies
logo of the European Agricultural Fund for Rural DevelopmentWelsh Assembly Government logo

Useful resources

Website design: mach2media and Technoleg Taliesin Cyf.