Non Gamstop CasinoGambling Sites Not On GamstopOnline Casino Not On GamstopBest Non Gamstop CasinosNew Betting Sites UK
Organic Centre Wales logo
  
Providing information on organic food and farming in Wales
Subscribe to our newsletter

Newyddion organig o Gymru a thu hwnt

mwy o newyddion…

Logo deilen yr UE bellach yn orfodol

Mae logo organig newydd yr UE yn orfodol o 1 Gorffennaf 2012 ymlaen ar bob cynnyrch bwyd organig wedi’i bacio sy’n cyrraedd y safonau angenrheidiol, yn ôl adroddiad yn Europolitics. Rhoddwyd cyfnod trawsnewid o ddwy flynedd i weithredwyr addasu i’r rheolau newydd er mwyn osgoi gwastraffu deunydd pacio a oedd ganddynt eisoes. Caiff labeli preifat, rhanbarthol neu genedlaethol eu defnyddio ochr yn ochr â logo’r EU.

Bydd yr Ewro-ddeilen yn parhau i fod yn ddewisol ar gyfer cynhyrchion organig sydd heb eu pacio ac sydd wedi’u mewnforio. O dan gyfres o gytundebau dwyochrog a lofnodwyd gyda thrydydd gwledydd, caiff cynhyrchion nad ydynt o’r UE eu cydnabod os ydynt yn “cael eu cynhyrchu o dan yr un amodau neu rai tebyg i gynhyrchwyr yr UE”. Fodd bynnag, rhaid i’w labeli ddatgan yn glir tarddiad y cynnyrch. Yn ôl swyddogion y Comisiwn, roedd y label eisoes yn ennill cydnabyddiaeth eang ymhlith defnyddwyr. Yn ôl arolwg Eurobarometer a gyhoeddir yn fuan, mae’r logo eisoes yn gyfarwydd i tua 24% o ddinasyddion Ewrop.

Stori lawn
http://www.organic-market.info/web/News_in_brief/Policy/EU_organic_leaf_logo_now_compulsory/176/191/0/12747.html darllen mwy   

Stori gynt: Y Sioe Frenhinol i fynd rhagddi
Stori nesaf: Y 7fed Gwobrau Gwyrdd Rhyngwladol – galwad am ymgeiswyr

Mwy o newyddion

In partnership with
ADAS logo Aberystwyth University logo Organic Research Centre Elm Farm logo
Organic Centre Wales, IBERS, Gogerddan Campus
Aberystwyth University, Ceredigion, SY23 3EB
T:01970 622248   E: [email protected]
Funding bodies
logo of the European Agricultural Fund for Rural DevelopmentWelsh Assembly Government logo

Useful resources

Website design: mach2media and Technoleg Taliesin Cyf.