COG yn Y Sioe Fawr: Gwrw prydau ysgol yn arwain wrth i fwyd organig gael hwb
Bydd Jeanette Orrey, un o arbenigwyr uchaf eu parch a mwyaf ysbrydoledig ym maes polisi bwyd ysgolion yn y DU, yn siarad am Bwyd Lleol i Ysgolion Lleol yn y Sioe Frenhinol yr wythnos nesa mewn seminar a drefnir gan Ganolfan Organig Cymru.
Mae Jeanette yn cydweithio â’r Ganolfan ar brosiect yn Sir Fynwy sy’n rhan o fenter Gwell Cysylltiadau Busnes Organig y Ganolfan i gynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o fwyd a ffermio cynaliadwy ac yn benodol i hybu ymwybyddiaeth o fwyd organig.
Gallwch gael gwybod mwy ym mhabell Bwyd a Ffermio Organig yn Ardal Gofal Cefn Gwlad, lle mae croeso i bawb gael te, bisgedi a’r coffi organig gorau ar faes y sioe.
Drwy gydol y sioe bydd cynhyrchwyr a phroseswyr organig o ledled Cymru yn ymuno â ni. Siaradwch â selogion am wellt toi, cnydau protein neu wlân a thecstilau prydferth (Llynfi Textiles neu Ystrad Organics). Cewch gwrdd ag Emily Davies Dofednod Organig Capestone, a fydd yn arddangos cynhyrchion cyw iâr.
I orffen y sioe ddydd Iau rydym yn rhoi cyfle i ymwelwyr i siarad â Patti o siop a bwyty bwyd organig y Treehouse yn Aberystwyth am fwynhau’r bwyd gorau. Mae Patti yn artist medrus, fel Picasso, a bydd yn darlunio’r testunau y mae pobl am eu trafod. Treuliwch ychydig amser yn sgwrsio â hi ac mae’n eitha tebyg y gallech ymddangos yn un o’i chartwnau enwog.
I archebu lle yn y seminar â Jeanette Orrey ddydd Llun 23 Gorffennaf am 2pm ym mhafiliwn Prifysgol Aberystwyth, e-bostiwch [email protected].
darllen mwy