Non Gamstop CasinoGambling Sites Not On GamstopOnline Casino Not On GamstopBest Non Gamstop CasinosNew Betting Sites UK
Organic Centre Wales logo
  
Providing information on organic food and farming in Wales
Subscribe to our newsletter

Newyddion organig o Gymru a thu hwnt

mwy o newyddion…

Astudiaeth yn amlygu’r angen am addysg organig yng Nghymru

Mae arolwg wedi canfod nad yw bron traean o blant Cymru erioed wedi clywed am ‘fwyd organig’ a dim ond eu hanner oedd yn teimlo eu bod yn gallu adnabod unrhyw nodweddion bwyd a gynhyrchir gan ddefnyddio dulliau ffermio a chynhyrchu organig.

Roedd yr astudiaeth, a gomisiynwyd gan Ganolfan Organig Cymru fel rhan o’i hymgyrch i hyrwyddo manteision prynu cynnyrch organig, yn cynnwys cyfweliadau â mwy na 500 o blant rhwng saith a phymtheg oed ar draws Cymru.

Roedd ymwybyddiaeth o fwyd organig yn sylweddol uwch yng nghefn gwlad canolbarth Cymru (85%), gyda’r ganran isaf (51%) yn cael ei chofnodi gan blant yn y Cymoedd. Roedd gwahaniaeth mawr o ran ymwybyddiaeth rhwng plant mewn addysg gynradd (7-10 oed, 37%) ac uwchradd (11-15 oed, 81%), gyda phlant Cymraeg eu hiaith o bob oedran yn dangos y lefel ymwybyddiaeth uchaf (86%).

“Fel gwlad sy’n falch iawn o’n cyflawniadau o ran yr amgylchedd a datblygu polisïau sy’n hyrwyddo cynaliadwyedd, mae’r arolwg hwn yn amlygu maes yn addysg ein plant sydd angen sylw brys,” meddai Jane Powell, sy’n arwain gweithgareddau i ysgolion i Ganolfan Organig Cymru. “Fel sefydliad gymharol newydd, rydym wedi bod yn gweithio’n uniongyrchol ag ysgolion ac awdurdodau addysg lleol i hybu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gynhyrchu organig a pham mae’n bwysig, ond mae’r arolwg hwn yn dangos faint mwy y mae angen ei wneud o hyd.” darllen mwy   

Stori gynt: Y Tywysog Siarl yn cefnogi bwyd organig a lleol
Stori nesaf: Cyhoeddiadau OCW a BOBL Awst 2012

Mwy o newyddion

In partnership with
ADAS logo Aberystwyth University logo Organic Research Centre Elm Farm logo
Organic Centre Wales, IBERS, Gogerddan Campus
Aberystwyth University, Ceredigion, SY23 3EB
T:01970 622248   E: [email protected]
Funding bodies
logo of the European Agricultural Fund for Rural DevelopmentWelsh Assembly Government logo

Useful resources

Website design: mach2media and Technoleg Taliesin Cyf.