Mae Canolfan Organig Cymru wedi cyhoeddi Pecyn Cymorth Cysylltiadau Cyhoeddus a Marchnata ar ei gwefan.
Mae’r pecyn cymorth yn dwyn ynghyd y deunyddiau a ddatblygwyd ar gyfer y cyrsiau Hyfforddiant yn y Cyfryngau a gynigir i fusnesau organig. Mae hefyd yn dweud wrth fusnesau sut gallant ymgysylltu ag ymgyrch ‘yn naturiol wahanol’ y Ganolfan a dysgu o’r profiad a geir wrth iddi fynd rhagddi.
Yn ôl Dafydd Owen, Swyddog Prosiect BOBL, ‘Yn y bôn, astudiaeth achos yw gwerthuso’r ymgyrch o gosteffeithiolrwydd gwahanol ffurfiau ar hysbysebu. Os yw unrhyw fusnesau organig yn ystyried buddsoddi mewn hysbysebu bydd darllen y gwerthusiad yn eu helpu i benderfynu beth fydd yn cynnig yr enillion gorau i’w busnesau.”