Non Gamstop CasinoGambling Sites Not On GamstopOnline Casino Not On GamstopBest Non Gamstop CasinosNew Betting Sites UK
Organic Centre Wales logo
  
Providing information on organic food and farming in Wales
Subscribe to our newsletter

Newyddion organig o Gymru a thu hwnt

mwy o newyddion…

Defnyddwyr yn dal i oramcangyfrif cost bwyd organig

Cynhaliwyd arolwg gan Ganolfan Organig Cymru’n ddiweddar yn Ffair Aeaf y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd 26 a 27 Tachwedd a fu’n tynnu sylw at syniadau cyfeiliornus cyffredin am gost bwyd organig.

Bu staff o Ganolfan Organig Cymru’n cynnal arolwg defnyddwyr i gael gwybod a allai siopwyr asesu gwerth cynnyrch organig yn gywir. Yn y neuadd fwyd brysur yn y Ffair Aeaf, gofynnodd staff y Ganolfan i ddefnyddwyr ddyfalu pris rysáit nodweddiadol ar gyfer stiw cyw iâr wedi’i wneud â chynhwysion organig. Bu dros 150 o bobl yn cymryd rhan yn yr arolwg gyda defnyddwyr ar gyfartaledd yn bwrw amcan-gost am y cynnyrch organig oedd yn rhy uchel o 14%. Mewn gwirionedd, ychydig dros 2% oedd y gwir wahaniaeth, ffaith a all ddod yn syndod i’r rhan fwyaf o siopwyr.

Yn ôl Neil Pearson o’r Ganolfan, “Rhagdybiaeth gyffredin yw bod bwyd organig yn ddrutach o lawer na chynnyrch sy’n cael ei ffermio’n gonfensiynol ac yn yr hinsawdd economaidd anodd sydd ohoni, mae cost yn ystyriaeth i bob defnyddiwr wrth siopa am fwyd. Fodd bynnag, mae’r arolwg hwn wedi tynnu sylw at y ffaith y gall fod defnyddwyr yn mynd heibio i gynnyrch organig ar silffoedd archfarchnadoedd oherwydd rhagdybiaethau’r gorffennol am fwyd organig. Gyda basged yn cynnwys eitemau arferol ar restrau siopa defnyddwyr megis brestiau cyw iâr, nionod a thatws roedden ni am herio’r rhagdybiaeth ynglŷn â bwyd organig sydd wedi’i orbrisio. Y gwir wahaniaeth mewn cost oedd ychydig dros 2% a’n gobaith yw, wrth dynnu sylw at y ffaith hon, y gall defnyddwyr ddewis prynu bwyd organig o ansawdd da sy’n dod o ffynonellau lleol, lle gynt efallai roeddent yn teimlo bod rhaid iddynt gyfaddawdu ar ansawdd oherwydd y pris.”

Nid rhwystr newydd yw hwn o fewn y diwydiant bwyd organig, sydd ers amser maith yn cael ei ystyried yn ‘elitaidd’ a’r tu hwnt i bocedi’r rhan fwyaf o siopwyr. Cynhaliwyd arolwg tebyg gan y Ganolfan ym mis Mai 2012 yng Ngŵyl Wanwyn y Sioe Frenhinol ac eto cafwyd bod defnyddwyr yn rhagdybio bod pris nwyddau organig allan o’u cyrraedd, gan amcangyfrif eu bod bron 50% yn ddrutach nag y mae. Bu ymchwil a gynhaliwyd gan Gymdeithas y Pridd yn 2011 hefyd yn amlygu’r rhagdybiaethau hyn gan ddarganfod bod bwyd organig mewn gwirionedd gryn dipyn yn rhatach na brandiau cyffredin y cartref megis Lurpak, Warburton’s a Kellogg’s.

Gyda’r Nadolig rownd y gornel, mae bwyd yn uchel ar agendâu defnyddwyr wrth iddynt wneud cynlluniau ar gyfer y pryd bwyd pwysicaf yn y flwyddyn. Y gobaith yw y bydd yr ymchwil hon yn annog defnyddwyr sy’n ymwybodol o ansawdd, plaladdwyr a lles anifeiliaid i edrych eto ar gynnyrch organig lleol yn y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig. darllen mwy   

Stori gynt: YMGYRCH ORGANIG YN RHOI TWRCWN Y NADOLIG O DAN Y CHWYDDWYDR
Stori nesaf: Dysgu am fwyd a ffermio yn Sir Fynwy

Mwy o newyddion

In partnership with
ADAS logo Aberystwyth University logo Organic Research Centre Elm Farm logo
Organic Centre Wales, IBERS, Gogerddan Campus
Aberystwyth University, Ceredigion, SY23 3EB
T:01970 622248   E: [email protected]
Funding bodies
logo of the European Agricultural Fund for Rural DevelopmentWelsh Assembly Government logo

Useful resources

Website design: mach2media and Technoleg Taliesin Cyf.