Oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu mwy am fyw’n gynaliadwy neu am baramaethu a rhwydweithio gyda phobl o’r un feddwl â chi?
A ydy eich llecyn chi yn dangos paramaethu ymarferol ar ei orau?
Hoffech chi ddysgu mwy am sut y gellir defnyddio egwyddorion paramaethu er mwyn datblygu eich tir ac eich prosiect?
Os ydych chi’n ateb Oes, Ydy neu Byddwn i unrhyw o’r cwestiynau hyn, yna hoffai Grŵp Gweithio Paramaethu Cymru glywed oddi wrthych.
Bydd eich help gyda’r holiadur cychwynnol yn ein alluogi i weld sut y gallwn ni ddod â pharamaeth yn nes mewn cyrraedd cymunedau ar draws Gymru , a chefnogi prosiectau sy’n bodoli eisoes, ynghyd â phrosiectau newydd, er iddynt ddod yn fwy gynaliadwy drwyddi draw. Bydd hefyd yn ein cynorthwyo i ddatblygu cynnig cryf am nawdd yn seiliedig ar anghenion a diddordeb gwirioneddol.